NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio adran 101(3)(b) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”).

Mae adran 101 o’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynnal asesiad gan awdurdod tai lleol o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr sy’n preswylio yn ei ardal neu sy’n cyrchu yno. Mae adran 101(3) o’r Ddeddf yn nodi ystyr y “cyfnod adolygu”, sef y cyfnod y mae rhaid i’r asesiad hwn gael ei gynnal ynddo.

Y cyfnod adolygu cyntaf o dan adran 101(3)(a) oedd y cyfnod o 25 Chwefror 2015 i 24 Chwefror 2016. O dan adran 101(3)(b) roedd pob asesiad dilynol i’w gynnal yn ystod pob cyfnod dilynol o 5 mlynedd. Oherwydd effeithiau’r coronafeirws ar gymunedau yng Nghymru a’i effaith ar weinyddu mewn awdurdodau tai lleol mae’r cyfnod adolygu, a fyddai fel arall wedi dod i ben ar 24 Chwefror 2021, wedi ei estyn gan un flwyddyn.

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio ystyr “cyfnod adolygu” yn adran 101(3) o’r Ddeddf fel bod y cyfnod adolygu sy’n dilyn y cyfnod adolygu o dan baragraff (a) wedi ei gynyddu o 5 i 6 mlynedd. Ar ôl hynny, y cyfnod adolygu yw 5 mlynedd.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.