Offerynnau Statudol Cymru
Tai, Cymru
Gwnaed
17 Mawrth 2021
Yn dod i rym
18 Mawrth 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 101(4) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014(1).
Yn unol ag adran 142(3)(c) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad(2).
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn yr Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr (Estyn y Cyfnod Adolygu) (Cymru) (Coronafeirws) 2021.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 18 Mawrth 2021.
2.—(1) Mae adran 101(3) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff (b) rhodder—
“(b)y cyfnod o 6 mlynedd sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod y daeth y cyfnod ym mharagraff (a) i ben, a phob cyfnod dilynol o 5 mlynedd sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod y daeth y cyfnod adolygu blaenorol i ben.”
Jane Hutt
Y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip o dan awdurdod Gweinidogion Cymru
17 Mawrth 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio adran 101(3)(b) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”).
Mae adran 101 o’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynnal asesiad gan awdurdod tai lleol o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr sy’n preswylio yn ei ardal neu sy’n cyrchu yno. Mae adran 101(3) o’r Ddeddf yn nodi ystyr y “cyfnod adolygu”, sef y cyfnod y mae rhaid i’r asesiad hwn gael ei gynnal ynddo.
Y cyfnod adolygu cyntaf o dan adran 101(3)(a) oedd y cyfnod o 25 Chwefror 2015 i 24 Chwefror 2016. O dan adran 101(3)(b) roedd pob asesiad dilynol i’w gynnal yn ystod pob cyfnod dilynol o 5 mlynedd. Oherwydd effeithiau’r coronafeirws ar gymunedau yng Nghymru a’i effaith ar weinyddu mewn awdurdodau tai lleol mae’r cyfnod adolygu, a fyddai fel arall wedi dod i ben ar 24 Chwefror 2021, wedi ei estyn gan un flwyddyn.
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio ystyr “cyfnod adolygu” yn adran 101(3) o’r Ddeddf fel bod y cyfnod adolygu sy’n dilyn y cyfnod adolygu o dan baragraff (a) wedi ei gynyddu o 5 i 6 mlynedd. Ar ôl hynny, y cyfnod adolygu yw 5 mlynedd.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Mae’r cyfeiriad yn adran 142(3) at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).