(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig”) a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau Cynllun Diofyn”) a wnaed o dan adran 13A(4) a (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ac Atodlen 1B iddi.
Mae’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod bilio yng Nghymru wneud cynllun sy’n pennu’r gostyngiadau sydd i fod yn gymwys i symiau o’r dreth gyngor sy’n daladwy gan bersonau, neu gan ddosbarthau o bersonau, y mae’r awdurdod yn ystyried eu bod mewn angen ariannol. Mae’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig hefyd yn nodi’r materion y mae rhaid eu cynnwys mewn cynllun o’r fath.
Mae’r Rheoliadau Cynllun Diofyn yn nodi cynllun a fydd yn cael effaith, mewn cysylltiad ag anheddau sydd wedi eu lleoli yn ardal awdurdod bilio, os yw’r awdurdod yn methu â gwneud ei gynllun ei hun.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a’r Rheoliadau Cynllun Diofyn.
Mae’r diwygiadau a wneir i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig gan reoliadau 3, 6, 9 a 10 yn darparu ar gyfer sut y mae taliadau o dan “Cynllun Digolledu Windrush” i gael eu cymryd i ystyriaeth wrth bennu cymhwystra ar gyfer gostyngiad a maint y gostyngiad. Gwneir yr un diwygiadau i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 12, 15, 18 a 19.
Mae’r diwygiad a wneir i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig gan reoliad 4(2) yn darparu ar gyfer sut y mae taliadau’r credyd cynhwysol i hawlwyr sydd wedi cyrraedd yr oedran cymhwyso ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth i gael eu cymryd i ystyriaeth wrth bennu cymhwystra ar gyfer gostyngiad a maint y gostyngiad. Gwneir yr un diwygiad i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliad 14.
Mae’r diwygiadau i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a wneir gan reoliadau 4(1), 5, 7 ac 8 yn cynyddu rhai o’r ffigyrau a ddefnyddir wrth gyfrifo a oes gan berson hawl i gael gostyngiad ai peidio, a swm y gostyngiad hwnnw. Mae’r ffigyrau uwchraddedig yn ymwneud â didyniadau annibynyddion (sef addasiadau i uchafswm y gostyngiad y mae hawl gan berson i’w gael, er mwyn cymryd i ystyriaeth oedolion sy’n byw yn yr annedd nad ydynt yn ddibynyddion y ceisydd); ac â’r swm cymwysadwy mewn perthynas â chais am ostyngiad (sef y swm y cymherir incwm ceisydd ag ef, er mwyn pennu swm y gostyngiad y mae hawl gan y ceisydd i’w gael). Gwneir yr un diwygiadau i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 13, 16 a 17.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.