2021 Rhif 338 (Cy. 92)

Newid Yn Yr Hinsawdd, Cymru

Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Interim) (Cymru) (Diwygio) 2021

Gwnaed

Yn dod i rym

Yn unol ag adran 48(3) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 20161 (“y Ddeddf”), gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad2.

Cyn i’r drafft gael ei osod, roedd Gweinidogion Cymru—

a

wedi eu bodloni bod pob targed allyriadau interim yn cael ei osod ar lefel sy’n gyson â chyrraedd targed allyriadau 2050, yn unol ag adran 32(1)(a) o’r Ddeddf,

b

wedi rhoi sylw i’r materion a restrir yn adran 32(3) o’r Ddeddf, ac

c

wedi cael cyngor gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd3, ac wedi ystyried y cyngor a gafwyd, yn unol ag adran 49(1) o’r Ddeddf.

Mae’r Pwyllgor ar Newid Hinsawdd wedi argymell diwygio’r targedau allyriadau interim ar gyfer 2030 a 2040.

Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 30(1) o’r Ddeddf, ac yn unol ag adran 32(2)(b) o’r Ddeddf, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi a chychwyn1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Interim) (Cymru) (Diwygio) 2021.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 19 Mawrth 2021.

Diwygio’r targedau allyriadau interim2

1

Mae rheoliad 2 o Reoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Interim) (Cymru) 20184 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Ym mharagraff (2), yn lle “45%” rhodder “63%”.

3

Ym mharagraff (3), yn lle “67%” rhodder “89%”.

Lesley GriffithsGweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Interim) (Cymru) 2018, sy’n gosod y targedau allyriadau interim o dan Ran 2 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”).

Diben Rhan 2 o’r Ddeddf yw ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyrraedd targedau ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o Gymru. Mae adran 29 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru sicrhau bod cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer y flwyddyn 2050 o leiaf 100% yn is na’r waelodlin.

Mae adran 30 o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau er mwyn gosod targedau allyriadau interim ar gyfer y blynyddoedd 2020, 2030 a 2040. Mae’r targedau hyn yn cael eu mynegi fel canran islaw’r waelodlin.

Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Interim) (Cymru) 2018. Mae targedau 2030 a 2040 wedi eu cynyddu o “45%” i “63%” ac o “67%” i “89%”, yn y drefn honno, yn is na’r waelodlin.

Yn unol ag adran 32(1)(a) o’r Ddeddf, mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y targedau allyriadau interim yn gyson â chyrraedd targed allyriadau 2050.

Yn unol ag adran 32 o’r Ddeddf, mae Gweinidogion Cymru wrth ddrafftio’r Rheoliadau hyn wedi rhoi sylw i’r ffactorau a restrir yn adran 32(3).

Yn unol ag adran 49 o’r Ddeddf, mae Gweinidogion Cymru wedi cael cyngor gan y corff cynghori, ac wedi ystyried y cyngor a gafwyd, cyn gosod rheoliadau drafft.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.