Offerynnau Statudol Cymru
Newid Yn Yr Hinsawdd, Cymru
Gwnaed
17 Mawrth 2021
Yn dod i rym
19 Mawrth 2021
Yn unol ag adran 48(3) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016(1) (“y Ddeddf”), gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad(2).
Cyn i’r drafft gael ei osod, roedd Gweinidogion Cymru—
(a)wedi eu bodloni bod pob targed allyriadau interim yn cael ei osod ar lefel sy’n gyson â chyrraedd targed allyriadau 2050, yn unol ag adran 32(1)(a) o’r Ddeddf,
(b)wedi rhoi sylw i’r materion a restrir yn adran 32(3) o’r Ddeddf, ac
(c)wedi cael cyngor gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd(3), ac wedi ystyried y cyngor a gafwyd, yn unol ag adran 49(1) o’r Ddeddf.
Mae’r Pwyllgor ar Newid Hinsawdd wedi argymell diwygio’r targedau allyriadau interim ar gyfer 2030 a 2040.
Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 30(1) o’r Ddeddf, ac yn unol ag adran 32(2)(b) o’r Ddeddf, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Mae’r cyfeiriad yn adran 48(3) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
Y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd yw’r corff cynghori perthnasol i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 44(3) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.