2021 Rhif 338 (Cy. 92)
Newid Yn Yr Hinsawdd, Cymru

Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Interim) (Cymru) (Diwygio) 2021

Gwnaed
Yn dod i rym
Yn unol ag adran 48(3) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 20161 (“y Ddeddf”), gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad2.

Cyn i’r drafft gael ei osod, roedd Gweinidogion Cymru—

(a)

wedi eu bodloni bod pob targed allyriadau interim yn cael ei osod ar lefel sy’n gyson â chyrraedd targed allyriadau 2050, yn unol ag adran 32(1)(a) o’r Ddeddf,

(b)

wedi rhoi sylw i’r materion a restrir yn adran 32(3) o’r Ddeddf, ac

(c)
wedi cael cyngor gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd3, ac wedi ystyried y cyngor a gafwyd, yn unol ag adran 49(1) o’r Ddeddf.

Mae’r Pwyllgor ar Newid Hinsawdd wedi argymell diwygio’r targedau allyriadau interim ar gyfer 2030 a 2040.

Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 30(1) o’r Ddeddf, ac yn unol ag adran 32(2)(b) o’r Ddeddf, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.