NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 (“Gorchymyn 2007”).

Gwnaed Gorchymyn 2007 gan yr Ysgrifennydd Gwladol, ond trosglwyddwyd y pwerau galluogi i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Cymru 2017. Gwnaeth Gweinidogion Cymru eu Gorchymyn cyntaf mewn perthynas â chynnal etholiadau Senedd Cymru yn 2020, sef Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2020 (“Gorchymyn 2020”).

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn 2007 i newid yr amser ar gyfer danfon papurau enwebu i 4 p.m. ar y 19eg diwrnod cyn diwrnod yr etholiad.

Mae erthyglau 4, 5 a 6 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio paragraffau 4, 6 a 7 o Atodlen 5 i Orchymyn 2007 a Rhan 2 o ffurflen CZ (Ffurflen cyfeiriad cartref) yn Atodlen 10 iddo. Mae’r diwygiadau yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeisydd, nad yw am i’w gyfeiriad cartref gael ei wneud yn gyhoeddus, ddarparu naill ai ei etholaeth Senedd Cymru, neu os yw’n preswylio y tu allan i Gymru, ei etholaeth Senedd y DU lle y mae ei gartref. Mae Ffurflen CZ wedi ei diwygio i adlewyrchu’r newid hwn hefyd.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.