Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 335 (Cy. 90)

Y Gyfraith Gyfansoddiadol

Cynrychiolaeth Y Bobl, Cymru

Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2021

Cymeradwywyd gan Senedd Cymru

Gwnaed

am 4.13 p.m. ar 17 Mawrth 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 5.55 p.m. ar 17 Mawrth 2021

Yn dod i rym

18 Mawrth 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 13(1) a (2) a 157(2)(c) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(1) fel y’i hestynnir gan adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993(2).

Yn unol ag adran 12(3) o Ddeddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021(3), gosodwyd yr offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad o fewn 28 o ddiwrnodau iddo gael ei wneud.

Yn unol ag adran 7(1) a (2)(f) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000(4), mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Comisiwn Etholiadol cyn iddo gael ei wneud.

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2021.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym drannoeth y diwrnod y’i gwneir..

(3Nid yw’r Gorchymyn hwn yn gymwys ond i etholiad cyffredinol arferol i fod yn Aelod o’r Senedd sy’n digwydd yn 2021.

(4Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “etholiad 2021” (“the 2021 election”) yw etholiad cyffredinol arferol i fod yn Aelod o’r Senedd y bwriedir i’r pôl ar ei gyfer gael ei gynnal yn 2021;

ystyr “Gorchymyn 2007” (“the 2007 Order”) yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007(5).

Diwygio Gorchymyn 2007

2.  Mae Gorchymyn 2007 wedi ei ddiwygio yn unol â Rhannau 2 a 3.

RHAN 2Danfon papurau enwebu

3.  Yn rheol 1(1) (amserlen ar gyfer cynnal trafodion mewn etholiad i’r Senedd) o Atodlen 5, yng ngholofn y tabl â’r pennawd “Time”, yn y cofnod sy’n cyfateb i’r cofnod “Delivery of nomination papers.”, ym mrawddeg gyntaf y golofn honno, ar ôl “notice of election but not later than” mewnosoder “4 in the afternoon on”.

RHAN 3Ffurflen cyfeiriad cartref

4.  Yn erthygl 2(1) (dehongli), yn y lle priodol, mewnosoder—

“UK Parliamentary constituency” means a constituency specified in an Order in Council made under section 4 of the Parliamentary Constituencies Act 1986(6).

5.—(1Mae Atodlen 5 (Rheolau Etholiadau’r Senedd) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheol 4(4B)(b)(i), ar ôl “state the” mewnosoder “Senedd Cymru or, if the candidate resides outside Wales, UK Parliamentary”.

(3Yn rheol 6(4B)(b)(i), ar ôl “state the” mewnosoder “Senedd Cymru or, if the candidate resides outside Wales, UK Parliamentary”.

(4Yn rheol 7(6B)(b)(i), ar ôl “state the” mewnosoder “Senedd Cymru or, if the candidate resides outside Wales, UK Parliamentary”.

6.  Yn Atodlen 10 (Atodiad ffurflenni), yn Rhan 2 o ffurflen CZ, ar ôl “etholaeth Senedd Cymru” mewnosoder “neu, os yw’r ymgeisydd yn preswylio y tu allan i Gymru, etholaeth Senedd y DU”.

Mark Drakeford

Prif Weinidog Cymru, un o Weinidogion Cymru

Am 4.13 p.m. ar 17 Mawrth 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 (“Gorchymyn 2007”).

Gwnaed Gorchymyn 2007 gan yr Ysgrifennydd Gwladol, ond trosglwyddwyd y pwerau galluogi i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Cymru 2017. Gwnaeth Gweinidogion Cymru eu Gorchymyn cyntaf mewn perthynas â chynnal etholiadau Senedd Cymru yn 2020, sef Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2020 (“Gorchymyn 2020”).

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn 2007 i newid yr amser ar gyfer danfon papurau enwebu i 4 p.m. ar y 19eg diwrnod cyn diwrnod yr etholiad.

Mae erthyglau 4, 5 a 6 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio paragraffau 4, 6 a 7 o Atodlen 5 i Orchymyn 2007 a Rhan 2 o ffurflen CZ (Ffurflen cyfeiriad cartref) yn Atodlen 10 iddo. Mae’r diwygiadau yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeisydd, nad yw am i’w gyfeiriad cartref gael ei wneud yn gyhoeddus, ddarparu naill ai ei etholaeth Senedd Cymru, neu os yw’n preswylio y tu allan i Gymru, ei etholaeth Senedd y DU lle y mae ei gartref. Mae Ffurflen CZ wedi ei diwygio i adlewyrchu’r newid hwn hefyd.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

(1)

2006 p. 32. Amnewidiwyd adran 13 gan adran 5(1) o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4) ac fe’i diwygiwyd wedi hynny gan Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (dccc 1).

(4)

2000 p. 41; amnewidiwyd is-adran (2)(f) gan O.S. 2007/1388.

(5)

O.S. 2007/236. Diwygiwyd y Gorchymyn hwn gan O.S. 2009/1182; O.S. 2010/1142 (Cy. 101); O.S. 2010/2931; O.S. 2011/1441; O.S. 2011/2085; O.S. 2012/1479; O.S. 2013/388; O.S. 2013/591; O.S. 2015/664; O.S. 2016/272; O.S. 2016/292; O.S. 2020/1558 (Cy. 329); adran 3 o Ddeddf Cymru 2014 (p. 29), adran 27 o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (dccc 1) ac adran 12 o Ddeddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021 (dsc 2).