2021 Rhif 335 (Cy. 90)
Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2021
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 13(1) a (2) a 157(2)(c) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 20061 fel y’i hestynnir gan adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 19932.
Yn unol ag adran 12(3) o Ddeddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 20213, gosodwyd yr offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad o fewn 28 o ddiwrnodau iddo gael ei wneud.
Yn unol ag adran 7(1) a (2)(f) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 20004, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Comisiwn Etholiadol cyn iddo gael ei wneud.
RHAN 1Cyffredinol
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso1
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2021.
2
Daw’r Gorchymyn hwn i rym drannoeth y diwrnod y’i gwneir..
3
Nid yw’r Gorchymyn hwn yn gymwys ond i etholiad cyffredinol arferol i fod yn Aelod o’r Senedd sy’n digwydd yn 2021.
4
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “etholiad 2021” (“the 2021 election”) yw etholiad cyffredinol arferol i fod yn Aelod o’r Senedd y bwriedir i’r pôl ar ei gyfer gael ei gynnal yn 2021;
ystyr “Gorchymyn 2007” (“the 2007 Order”) yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 20075.
Diwygio Gorchymyn 20072
Mae Gorchymyn 2007 wedi ei ddiwygio yn unol â Rhannau 2 a 3.
RHAN 2Danfon papurau enwebu
3
Yn rheol 1(1) (amserlen ar gyfer cynnal trafodion mewn etholiad i’r Senedd) o Atodlen 5, yng ngholofn y tabl â’r pennawd “Time”, yn y cofnod sy’n cyfateb i’r cofnod “Delivery of nomination papers.”, ym mrawddeg gyntaf y golofn honno, ar ôl “notice of election but not later than” mewnosoder “4 in the afternoon on”.
RHAN 3Ffurflen cyfeiriad cartref
4
Yn erthygl 2(1) (dehongli), yn y lle priodol, mewnosoder—
“UK Parliamentary constituency” means a constituency specified in an Order in Council made under section 4 of the Parliamentary Constituencies Act 19866.
5
1
Mae Atodlen 5 (Rheolau Etholiadau’r Senedd) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheol 4(4B)(b)(i), ar ôl “state the” mewnosoder “Senedd Cymru or, if the candidate resides outside Wales, UK Parliamentary”.
3
Yn rheol 6(4B)(b)(i), ar ôl “state the” mewnosoder “Senedd Cymru or, if the candidate resides outside Wales, UK Parliamentary”.
4
Yn rheol 7(6B)(b)(i), ar ôl “state the” mewnosoder “Senedd Cymru or, if the candidate resides outside Wales, UK Parliamentary”.
6
Yn Atodlen 10 (Atodiad ffurflenni), yn Rhan 2 o ffurflen CZ, ar ôl “etholaeth Senedd Cymru” mewnosoder “neu, os yw’r ymgeisydd yn preswylio y tu allan i Gymru, etholaeth Senedd y DU”.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)