1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2021.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym drannoeth y diwrnod y’i gwneir..
(3) Nid yw’r Gorchymyn hwn yn gymwys ond i etholiad cyffredinol arferol i fod yn Aelod o’r Senedd sy’n digwydd yn 2021.
(4) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “etholiad 2021” (“the 2021 election”) yw etholiad cyffredinol arferol i fod yn Aelod o’r Senedd y bwriedir i’r pôl ar ei gyfer gael ei gynnal yn 2021;
ystyr “Gorchymyn 2007” (“the 2007 Order”) yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007(1).
O.S. 2007/236. Diwygiwyd y Gorchymyn hwn gan O.S. 2009/1182; O.S. 2010/1142 (Cy. 101); O.S. 2010/2931; O.S. 2011/1441; O.S. 2011/2085; O.S. 2012/1479; O.S. 2013/388; O.S. 2013/591; O.S. 2015/664; O.S. 2016/272; O.S. 2016/292; O.S. 2020/1558 (Cy. 329); adran 3 o Ddeddf Cymru 2014 (p. 29), adran 27 o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (dccc 1) ac adran 12 o Ddeddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021 (dsc 2).