Offerynnau Statudol Cymru
2021 Rhif 334 (Cy. 89)
Newid Yn Yr Hinsawdd, Cymru
Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Net Cymru) (Cymru) 2021
Gwnaed
17 Mawrth 2021
Yn dod i rym
19 Mawrth 2021
Yn unol ag adran 48(3) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016(1) (“y Ddeddf”), gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad(2).
Cyn i’r drafft gael ei osod, roedd Gweinidogion Cymru wedi cael cyngor gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd(3), ac wedi ystyried y cyngor a gafwyd, yn unol ag adran 49(1) o’r Ddeddf.
Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 33(4) o’r Ddeddf, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a chychwyn
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Net Cymru) (Cymru) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 19 Mawrth 2021.
Terfyn unedau carbon
2. Y terfyn ar swm yr unedau carbon y caniateir eu credydu i gyfrif allyriadau net Cymru am y cyfnod cyllidebol 2021-2025 yw 0% o’r gyllideb garbon.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
17 Mawrth 2021
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gosod terfyn ar swm yr unedau carbon y caniateir eu credydu i gyfrif allyriadau net Cymru yn unol ag adran 33(4) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”).
Mae adran 33 o’r Ddeddf yn darparu mai cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer cyfnod yw swm allyriadau net Cymru o nwyon tŷ gwydr plws unrhyw unedau carbon a ddidynnir o’r cyfrif, a minws unrhyw unedau carbon a gredydir i’r cyfrif yn ystod y cyfnod.
Mae adran 33(4) o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod terfyn ar swm yr unedau carbon y caniateir eu credydu i gyfrif allyriadau net Cymru am gyfnod cyllidebol.
Mae rheoliad 2 yn gosod terfyn ar nifer yr unedau carbon y caniateir eu credydu i gyfrif allyriadau net Cymru am y cyfnod cyllidebol 2021-2025, sef terfyn o 0% o’r gyllideb garbon.
Yn unol ag adran 49 o’r Ddeddf, mae Gweinidogion Cymru wedi cael cyngor gan y corff cynghori, ac wedi ystyried y cyngor a gafwyd, cyn gosod rheoliadau drafft.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Mae’r cyfeiriad yn adran 48(3) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
Y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd yw’r corff cynghori perthnasol i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 44(3) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
