2021 Rhif 334 (Cy. 89)
Newid Yn Yr Hinsawdd, Cymru
Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Net Cymru) (Cymru) 2021
Gwnaed
Yn dod i rym
Yn unol ag adran 48(3) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 20161 (“y Ddeddf”), gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad2.
Cyn i’r drafft gael ei osod, roedd Gweinidogion Cymru wedi cael cyngor gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd3, ac wedi ystyried y cyngor a gafwyd, yn unol ag adran 49(1) o’r Ddeddf.
Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 33(4) o’r Ddeddf, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.