xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 333 (Cy. 88)

Newid Yn Yr Hinsawdd, Cymru

Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Diwygio Targed Allyriadau 2050) 2021

Gwnaed

17 Mawrth 2021

Yn dod i rym

19 Mawrth 2021

Yn unol ag adran 48(3) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016(1) (“y Ddeddf”), gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad(2).

Cyn i’r drafft gael ei osod, roedd Gweinidogion Cymru—

(a)wedi rhoi sylw i’r materion a restrir yn adran 32(3) o’r Ddeddf, a

(b)wedi cael cyngor gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd(3), ac wedi ystyried y cyngor a gafwyd, yn unol ag adran 49(1) o’r Ddeddf.

Mae’r Pwyllgor ar Newid Hinsawdd wedi argymell newid targed allyriadau 2050.

Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 29(3) o’r Ddeddf, ac yn unol ag adran 32(2)(b) o’r Ddeddf, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Diwygio Targed Allyriadau 2050) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 19 Mawrth 2021.

Diwygio targed allyriadau 2050

2.  Yn adran 29(1) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, yn lle “80%” rhodder “100%”.

Lesley Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

17 Mawrth 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Diben Rhan 2 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”) yw ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyrraedd targedau ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o Gymru. Mae adran 29 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru sicrhau bod cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer y flwyddyn 2050 ganran benodedig yn is na’r waelodlin.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio adran 29 o’r Ddeddf drwy newid y ganran yn is-adran (1). Mae adran 29(1) yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru o ran lefel “cyfrif allyriadau net Cymru” (swm allyriadau Cymru o nwyon tŷ gwydr am gyfnod wedi ei addasu yn ôl swm echdyniadau Cymru o’r nwyon hynny am y cyfnod hwnnw) ar gyfer y flwyddyn 2050. Y ddyletswydd yw sicrhau bod cyfrif allyriadau net Cymru isafswm canran yn is na “y waelodlin” (gwaelodlin allyriadau net Cymru o nwyon tŷ gwydr y cymhwysir y ganran yn adran 29(1) yn ei herbyn).

Effaith y diwygiad yn y Rheoliadau hyn yw bod isafswm y ganran y mae rhaid i gyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer y flwyddyn 2050 fod yn is na’r waelodlin wedi ei gynyddu o 80% i 100%.

Yn unol ag adran 32 o’r Ddeddf, mae Gweinidogion Cymru wrth ddrafftio’r Rheoliadau hyn wedi rhoi sylw i’r ffactorau a restrir yn adran 32(3).

Yn unol ag adran 49 o’r Ddeddf, mae Gweinidogion Cymru wedi cael cyngor gan y corff cynghori, ac wedi ystyried y cyngor a gafwyd, cyn gosod rheoliadau drafft.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(2)

Mae’r cyfeiriad yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(3)

Y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd yw’r corff cynghori perthnasol i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 44(3) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.