2021 Rhif 333 (Cy. 88)

Newid Yn Yr Hinsawdd, Cymru

Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Diwygio Targed Allyriadau 2050) 2021

Gwnaed

Yn dod i rym

Yn unol ag adran 48(3) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 20161 (“y Ddeddf”), gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad2.

Cyn i’r drafft gael ei osod, roedd Gweinidogion Cymru—

a

wedi rhoi sylw i’r materion a restrir yn adran 32(3) o’r Ddeddf, a

b

wedi cael cyngor gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd3, ac wedi ystyried y cyngor a gafwyd, yn unol ag adran 49(1) o’r Ddeddf.

Mae’r Pwyllgor ar Newid Hinsawdd wedi argymell newid targed allyriadau 2050.

Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 29(3) o’r Ddeddf, ac yn unol ag adran 32(2)(b) o’r Ddeddf, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi a chychwyn1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Diwygio Targed Allyriadau 2050) 2021.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 19 Mawrth 2021.

Diwygio targed allyriadau 20502

Yn adran 29(1) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, yn lle “80%” rhodder “100%”.

Lesley GriffithsGweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Diben Rhan 2 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”) yw ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyrraedd targedau ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o Gymru. Mae adran 29 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru sicrhau bod cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer y flwyddyn 2050 ganran benodedig yn is na’r waelodlin.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio adran 29 o’r Ddeddf drwy newid y ganran yn is-adran (1). Mae adran 29(1) yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru o ran lefel “cyfrif allyriadau net Cymru” (swm allyriadau Cymru o nwyon tŷ gwydr am gyfnod wedi ei addasu yn ôl swm echdyniadau Cymru o’r nwyon hynny am y cyfnod hwnnw) ar gyfer y flwyddyn 2050. Y ddyletswydd yw sicrhau bod cyfrif allyriadau net Cymru isafswm canran yn is na “y waelodlin” (gwaelodlin allyriadau net Cymru o nwyon tŷ gwydr y cymhwysir y ganran yn adran 29(1) yn ei herbyn).

Effaith y diwygiad yn y Rheoliadau hyn yw bod isafswm y ganran y mae rhaid i gyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer y flwyddyn 2050 fod yn is na’r waelodlin wedi ei gynyddu o 80% i 100%.

Yn unol ag adran 32 o’r Ddeddf, mae Gweinidogion Cymru wrth ddrafftio’r Rheoliadau hyn wedi rhoi sylw i’r ffactorau a restrir yn adran 32(3).

Yn unol ag adran 49 o’r Ddeddf, mae Gweinidogion Cymru wedi cael cyngor gan y corff cynghori, ac wedi ystyried y cyngor a gafwyd, cyn gosod rheoliadau drafft.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.