Diben Rhan 2 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”) yw ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyrraedd targedau ar gyfer lleihau allyriadau net Cymru o nwyon tŷ gwydr o Gymru. Mae adran 29 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i sicrhau bod allyriadau net Cymru ar gyfer y flwyddyn 2050 o leiaf 100% yn is na gwaelodlin y ffigurau allyriadau.
Mae adran 31(1) o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod cyllidebau carbon ar gyfer pob cyfnod cyllidebol o 5 mlynedd rhwng 2016 a 2050. Mae adran 32(1)(b) yn ei gwneud yn ofynnol i bob cyllideb garbon a osodir gan Weinidogion Cymru gael ei gosod ar lefel sy’n gyson â chyrraedd targed allyriadau 2050 a’r targed allyriadau interim ar gyfer unrhyw flwyddyn darged interim sydd o fewn y cyfnod cyllidebol hwnnw neu’n dod ar ei ôl.
Mae rheoliad 2 yn diwygio’r gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod cyllidebol 2021-2025 fel ei bod wedi ei chyfyngu i gyfartaledd o 37% yn is na’r waelodlin.
Mae rheoliad 3 yn gosod y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod cyllidebol 2026-2030 fel ei bod wedi ei chyfyngu i gyfartaledd o 58% yn is na’r waelodlin.
Yn unol ag adran 32 o’r Ddeddf, mae Gweinidogion Cymru wrth ddrafftio’r Rheoliadau hyn wedi rhoi sylw i’r ffactorau a restrir yn adran 32(3).
Yn unol ag adran 49 o’r Ddeddf, mae Gweinidogion Cymru wedi cael cyngor gan y corff cynghori, ac wedi ystyried y cyngor a gafwyd, cyn gosod rheoliadau drafft.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.