Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021

Rheoliad 3

ATODLEN 1LL+CSafonau ymddygiad

Cymhwyso cod ymddygiad awdurdod perthnasol i aelodau a chyfranogwyr cyfetholedigLL+C

1.—(1Mae is-baragraff (2) yn gymwys i berson—

(a)sydd—

(i)yn aelod, neu

(ii)yn gyfranogwyr cyfetholedig,

o gyd-bwyllgor corfforedig, a

(b)sydd—

(i)yn aelod, neu

(ii)yn aelod cyfetholedig,

o awdurdod perthnasol.

(2At ddibenion cod ymddygiad yr awdurdod perthnasol, mae person y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo i’w drin fel pe bai wedi ei benodi gan yr awdurdod perthnasol i wasanaethu ar y cyd-bwyllgor corfforedig.

(3Pan fo’n ofynnol, yn rhinwedd is-baragraff (2), i berson y mae’r is-baragraff hwnnw yn gymwys iddo, i’r graddau y mae’n gweithredu ar ran y cyd-bwyllgor corfforedig, i gydymffurfio â’r cod ymddygiad enghreifftiol (“y cod”), mae is-baragraffau (4) a (5) yn gymwys.

(4Mae cyfeiriadau at “awdurdod” person yn Rhan 3 o’r cod i’w darllen fel cyfeiriadau at y cyd-bwyllgor corfforedig y mae’r person yn gweithredu ar ei ran.

(5Rhaid i berson gofrestru unrhyw fuddiant personol sydd ganddo ym musnes y cyd-bwyllgor corfforedig yng nghofrestr buddiannau aelodau ei awdurdod perthnasol drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddog monitro’r awdurdod.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Cymhwyso cod ymddygiad awdurdod i gyflogeionLL+C

2.—(1Mae is-baragraff (2) yn gymwys oni bai—

(a)bod darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb, neu

(b)bod y cyd-destun yn mynnu fel arall.

(2Mae Gorchymyn Cod Ymddygiad (Cyflogeion Cymwys Llywodraeth Leol) (Cymru) 2001(1) (“Gorchymyn 2001”) yn gymwys i gyflogai cyd-bwyllgor corfforedig fel y mae’n gymwys i gyflogai awdurdod perthnasol.

(3Yng Ngorchymyn 2001, fel y mae’n gymwys yn rhinwedd is-baragraff (2), mae cyfeiriad at awdurdod cyflogai i’w ddarllen fel cyfeiriad at gyd-bwyllgor corfforedig cyflogai.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Dehongli Atodlen 1LL+C

3.  Yn yr Atodlen hon—

(a)mae cyfeiriadau at “Deddf 2000” yn gyfeiriadau at Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(2);

(b)mae cyfeiriadau at y “cod ymddygiad enghreifftiol” yn gyfeiriadau at y cod ymddygiad enghreifftiol a nodir yn yr Atodlen i Orchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008(3);

(c)ystyr “cod ymddygiad” yw’r cod ymddygiad a fabwysiadwyd gan awdurdod perthnasol o dan adran 51 o Ddeddf 2000;

(d)mae i “aelod cyfetholedig” yr ystyr a roddir i “co-opted member” gan adran 49 o Ddeddf 2000;

(e)mae i “awdurdod perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant authority” gan adran 49 o Ddeddf 2000.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Rheoliad 4

ATODLEN 2LL+CCyllid a chyfrifon

Diwygio Deddf Llywodraeth Leol 2003LL+C

1.  Yn adran 23 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003(4) (ystyr “local authority” (“awdurdod lleol”)), ar ôl is-adran (10) mewnosoder—

(11) This Part applies in relation to a corporate joint committee established by regulations made under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021 as it applies in relation to a local authority.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003LL+C

2.  Yn rheoliad 1(4) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003(5) (dehongli), yn y diffiniad o “local authority”, ar ôl “Regulations” mewnosoder “and includes a corporate joint committee established by regulations made under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021 in so far as Part 1 of the Local Government Act 2003 applies to corporate joint committees by virtue of section 23(11) of the 2003 Act”.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Rheoliad 5

ATODLEN 3LL+CDiwygiadau cyffredinol

Diwygio Deddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970LL+C

1.  Yn adran 1(4) o Ddeddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970(6) (cyflenwi nwyddau a gwasanaethau gan awdurdodau lleol), yn y diffiniad o “local authority”, ar ôl “any joint authority established by Part VI of the Local Government Act 1985,” mewnosoder “any corporate joint committee established by regulations made under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021,”.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Diwygio Deddf Cydraddoldeb 2010LL+C

2.  Yn adran 59(2) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010(7), ar ôl paragraff (j) mewnosoder—

(ja)a corporate joint committee established by regulations made under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021;.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Diwygio Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017LL+C

3.  Ym mharagraff 1(4) o Atodlen 20 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017(8), ar ôl paragraff (d) mewnosoder—

(da)cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlwyd drwy reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

(4)

2003 p. 26. 2003 p. 26. Diwygiwyd adran 23 gan baragraff 100 o Atodlen 1 i Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21); paragraff 10(3)(e) o Atodlen 2 i Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 (p. 36); paragraff 117(2) o Atodlen 6 i Ddeddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009 (p. 20); paragraff 317 o Atodlen 16 i Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 (p. 13); paragraff 6(32)(a) o Atodlen 13 i Ddeddf Dadreoleiddio 2015 (p. 20); adrannau 9(4) a 25(2) o Ddeddf Datganoli Dinasoedd a Llywodraeth Leol 2016 (p. 1); paragraff 83(2) o Atodlen 1 i Ddeddf Plismona a Throsedd 2017 (p. 3); a chan O.S. 2005/886.