ATODLEN 3Diwygiadau cyffredinol

Rheoliad 5

Diwygio Deddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970

1.

Yn adran 1(4) o Ddeddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 19707 (cyflenwi nwyddau a gwasanaethau gan awdurdodau lleol), yn y diffiniad o “local authority”, ar ôl “any joint authority established by Part VI of the Local Government Act 1985,” mewnosoder “any corporate joint committee established by regulations made under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021,”.
Annotations:
Commencement Information

I1Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Diwygio Deddf Cydraddoldeb 2010

2.

Yn adran 59(2) o Ddeddf Cydraddoldeb 20108, ar ôl paragraff (j) mewnosoder—

“(ja)

a corporate joint committee established by regulations made under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021;”.

Annotations:
Commencement Information

I2Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Diwygio Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

3.

Ym mharagraff 1(4) o Atodlen 20 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 20179, ar ôl paragraff (d) mewnosoder—

“(da)

cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlwyd drwy reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;”.