xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliad 3

ATODLEN 1LL+CSafonau ymddygiad

Cymhwyso cod ymddygiad awdurdod perthnasol i aelodau [F1ac aelodau o is-bwyllgor] LL+C

1.—(1Mae is-baragraff (2) yn gymwys i berson—

(a)sydd—

(i)yn aelod, neu

(ii)yn [F2aelod o is-bwyllgor],

o gyd-bwyllgor corfforedig, a

(b)sydd—

(i)yn aelod, neu

(ii)yn aelod cyfetholedig,

o awdurdod perthnasol.

(2At ddibenion cod ymddygiad yr awdurdod perthnasol, mae person y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo i’w drin fel pe bai wedi ei benodi gan yr awdurdod perthnasol i wasanaethu ar y cyd-bwyllgor corfforedig.

(3Pan fo’n ofynnol, yn rhinwedd is-baragraff (2), i berson y mae’r is-baragraff hwnnw yn gymwys iddo, i’r graddau y mae’n gweithredu ar ran y cyd-bwyllgor corfforedig, i gydymffurfio â’r cod ymddygiad enghreifftiol (“y cod”), mae is-baragraffau (4) a (5) yn gymwys.

(4Mae cyfeiriadau at “awdurdod” person yn Rhan 3 o’r cod i’w darllen fel cyfeiriadau at y cyd-bwyllgor corfforedig y mae’r person yn gweithredu ar ei ran.

(5Rhaid i berson gofrestru unrhyw fuddiant personol sydd ganddo ym musnes y cyd-bwyllgor corfforedig yng nghofrestr buddiannau aelodau ei awdurdod perthnasol drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddog monitro’r awdurdod.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Cymhwyso cod ymddygiad awdurdod i gyflogeionLL+C

2.—(1Mae is-baragraff (2) yn gymwys oni bai—

(a)bod darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb, neu

(b)bod y cyd-destun yn mynnu fel arall.

(2Mae Gorchymyn Cod Ymddygiad (Cyflogeion Cymwys Llywodraeth Leol) (Cymru) 2001(1) (“Gorchymyn 2001”) yn gymwys i gyflogai cyd-bwyllgor corfforedig fel y mae’n gymwys i gyflogai awdurdod perthnasol.

(3Yng Ngorchymyn 2001, fel y mae’n gymwys yn rhinwedd is-baragraff (2), mae cyfeiriad at awdurdod cyflogai i’w ddarllen fel cyfeiriad at gyd-bwyllgor corfforedig cyflogai.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Dehongli Atodlen 1LL+C

3.  Yn yr Atodlen hon—

(a)mae cyfeiriadau at “Deddf 2000” yn gyfeiriadau at Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(2);

(b)mae cyfeiriadau at y “cod ymddygiad enghreifftiol” yn gyfeiriadau at y cod ymddygiad enghreifftiol a nodir yn yr Atodlen i Orchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008(3);

(c)ystyr “cod ymddygiad” yw’r cod ymddygiad a fabwysiadwyd gan awdurdod perthnasol o dan adran 51 o Ddeddf 2000;

(d)mae i “aelod cyfetholedig” yr ystyr a roddir i “co-opted member” gan adran 49 o Ddeddf 2000;

(e)mae i “awdurdod perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant authority” gan adran 49 o Ddeddf 2000.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)