Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Rhif 2) (Cymru) (Coronafeirws) 2021
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Rhif 2) (Cymru) (Coronafeirws) 2021.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2021.
(3)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(4)
Tenantiaethau preswyl (gwarchodaeth rhag troi allan)2.
(1)
Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), ni chaiff unrhyw berson fod yn bresennol mewn tŷ annedd at ddiben—
(a)
gweithredu gwrit neu warant meddiant,
(b)
gweithredu gwrit neu warant adfer, neu
(c)
danfon hysbysiad troi allan.
(2)
Nid yw paragraff (1) yn gymwys pan fo’r llys wedi ei fodloni bod y writ, y warant neu’r hysbysiad yn ymwneud â gorchymyn meddiant a wneir—
(a)
(b)
(c)
(d)
(e)
(f)
yn llwyr neu’n rhannol o dan Achos 2 o Atodlen 15 (sail ar gyfer meddiannu tai annedd sy’n cael eu gosod o dan denantiaethau gwarchodedig neu statudol, neu sy’n ddarostyngedig iddynt) i Ddeddf Rhenti 1977.
(3)
Pan fo paragraff (2)(e) yn gymwys, rhaid i’r person sy’n bresennol yn y tŷ annedd gymryd camau rhesymol i’w fodloni ei hun nad yw’r tŷ annedd wedi ei feddiannu cyn cyflawni’r materion hynny a nodir ym mharagraff (1)(a), (b) neu (c).
Adolygu a dod i ben3.
(1)
Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn, a pha un a yw’r cyfyngiadau hynny yn gymesur â’r hyn y mae Gweinidogion Cymru yn ceisio ei gyflawni drwyddynt—
(a)
o leiaf unwaith yn y cyfnod o 1 Ebrill 2021 i 23 Ebrill 2021;
(b)
o leiaf unwaith ym mhob cyfnod dilynol o 21 o ddiwrnodau.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn i ben ar ddiwedd y dydd ar 30 Mehefin 2021.
Mae adran 45C o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru fel “the appropriate Minister”, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn ailddeddfu Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2021.
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2021 a deuant i ben ar ddiwedd y dydd ar 30 Mehefin 2021. Mae rheoliad 3 yn darparu bod rhaid adolygu’r Rheoliadau’n rheolaidd er mwyn sicrhau bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir yn parhau i fod yn gymesur.
Mae’r Rheoliadau hyn yn atal, ac eithrio o dan amgylchiadau penodedig, bod yn bresennol mewn tŷ annedd at ddiben gweithredu gwrit neu warant meddiant, gweithredu gwrit neu warant adfer neu ddanfon hysbysiad troi allan.
Yr amgylchiadau penodedig yw pan fo’r llys wedi ei fodloni bod yr hawliad yn un yn erbyn tresmaswyr sy’n bersonau anhysbys; neu pan y’i gwnaed yn llwyr neu’n rhannol ar sail trais domestig, troseddau difrifol, ymddygiad gwrthgymdeithasol, neu niwsans; neu, mewn achosion pan fo’r person sy’n bresennol wedi ei fodloni nad yw’r tŷ annedd wedi ei feddiannu ar yr adeg pan fo’n bresennol a phan fo’r gorchymyn meddiant wedi ei wneud yn llwyr neu’n rhannol ar sail marwolaeth y meddiannydd.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.