Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Atal Dros Dro: Gofal a Chymorth gan Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2021
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod yr amodau a bennir yn adran 88(9) o’r Ddeddf honno wedi eu bodloni mewn perthynas â’r darpariaethau a atelir dros dro gan y Rheoliadau hyn.
Enwi, cychwyn a dehongli1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Atal Dros Dro: Gofal a Chymorth gan Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2021.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 22 Mawrth 2021.
(3)
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Deddf 2020” yw Deddf y Coronafeirws 2020.
Atal dros dro addasiadau o dan Ddeddf 2020 mewn perthynas â dyletswyddau penodol awdurdodau lleol2.
Mae gweithrediad y darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2020 wedi ei atal dros dro—
(a)
Rhan 2 o Atodlen 12 (pwerau a dyletswyddau awdurdodau lleol yng Nghymru);
(b)
adran 15 (gofal a chymorth gan awdurdodau lleol), i’r graddau y mae’n ymwneud â Rhan 2 o Atodlen 12.
Mae’r Rheoliadau hyn yn atal dros dro ddarpariaethau penodol yn Neddf y Coronafeirws 2020 (“Deddf 2020”) sy’n addasu dyletswyddau penodol awdurdodau lleol mewn perthynas â gofal cymdeithasol i oedolion o dan Rannau 3 a 4 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Mae Rheoliad 2 yn darparu ar gyfer atal dros dro weithrediad Rhan 2 o Atodlen 12 i Ddeddf 2020 (pwerau a dyletswyddau awdurdodau lleol yng Nghymru) ac adran 15 o Ddeddf 2020 (gofal a chymorth gan awdurdodau lleol), i’r graddau y mae’n ymwneud â Rhan 2 o Atodlen 12.
Mae atal dros dro weithrediad y darpariaethau hyn yn golygu nad ydynt yn cael effaith yng Nghymru mwyach ond bod modd eu hadfer o dan adran 88(3) o Ddeddf 2020.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.