NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn cynnwys y cyfansymiau mwyaf y caiff swyddog canlyniadau eu hadennill am wasanaethau a ddarperir a threuliau yr eir iddynt ar gyfer cynnal etholiad Senedd Cymru neu mewn cysylltiad â hynny. Mae’r Gorchymyn hwn yn disodli ac yn dirymu Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2016 (O.S. 2016/417) (Cy. 133).

Mae etholiad Senedd Cymru i’w gynnal ar yr un diwrnod ag etholiad y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu. Felly, mae’r holl symiau wedi cymryd i ystyriaeth y darpariaethau a geir yn erthygl 16A o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 (O.S. 2007/236) (fel y’i mewnosodwyd gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/272)), sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r symiau hyn gael eu rhannu’n gyfartal rhwng etholiad Senedd Cymru ac etholiad y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu.

Mae erthyglau 4, 5 a 6 o’r Gorchymyn hwn yn pennu’r cyfansymiau mwyaf am wasanaethau a ddarperir a threuliau yr eir iddynt ar gyfer etholiad etholaethol a ymleddir neu mewn cysylltiad ag etholiad o’r fath. Mae’r swm sy’n adenilladwy am wasanaethau a ddarperir yn ymwneud â gweinyddu etholiadol a chyflawni dyletswyddau mewn perthynas â’r etholiad gan swyddogion canlyniadau a gweinyddwyr etholiadol. Mae’r treuliau yr eir iddynt yn gwahaniaethu rhwng treuliau safonol a threuliau sy’n ymwneud â’r coronafeirws. Mae’r symiau wedi eu rhestru yn y tabl yn Atodlen 1.

Mae erthyglau 7, 8 a 9 yn pennu’r cyfansymiau mwyaf am wasanaethau a ddarperir a threuliau yr eir iddynt ar gyfer etholiad rhanbarthol a ymleddir neu mewn cysylltiad ag etholiad o’r fath. Mae’r symiau wedi eu rhestru yn y tabl yn Atodlen 2.

Mae erthygl 10 yn pennu’r cyfanswm mwyaf am etholiad etholaethol nas ymleddir, tra bo erthygl 11 yn pennu’r cyfanswm mwyaf am etholiad rhanbarthol nas ymleddir.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cym.