Y cyfanswm mwyaf sy’n adenilladwy am dreuliau yr eir iddynt mewn etholiad rhanbarthol i’r Senedd a ymleddir9.
(1)
Ni chaiff y cyfanswm y caiff swyddog canlyniadau rhanbarthol ei adennill am dreuliau yr eir iddynt ar gyfer etholiad rhanbarthol i’r Senedd a ymleddir, neu mewn cysylltiad ag etholiad o’r fath, fod yn fwy na’r swm a restrir ar gyfer pob rhanbarth yng ngholofn 3 o’r tabl yn Atodlen 2.
(2)
Rhaid i unrhyw dreuliau yr eir iddynt fod ar gyfer y canlynol neu mewn cysylltiad â’r canlynol—
(a)
penodi a thalu personau i gynorthwyo’r swyddog canlyniadau rhanbarthol;
(b)
treuliau teithio a chynhaliaeth dros nos y swyddog canlyniadau rhanbarthol ac unrhyw berson a benodir i gynorthwyo’r swyddog canlyniadau rhanbarthol;
(c)
costau’r broses enwebu;
(d)
argraffu neu gynhyrchu fel arall hysbysiadau etholiad, a’u cyhoeddi;
(e)
argraffu neu gynhyrchu fel arall y papurau pleidleisio;
(f)
darparu deunyddiau ysgrifennu a thalu costau postio, ffonio, argraffu, cyfieithu a bancio a chostau eitemau amrywiol eraill.