Y cyfanswm mwyaf sy’n adenilladwy am dreuliau yr eir iddynt mewn etholiad etholaethol i’r Senedd a ymleddir6.
(1)
Ni chaiff y cyfanswm y caiff swyddog canlyniadau etholaethol ei adennill am dreuliau yr eir iddynt ar gyfer etholiad etholaethol i’r Senedd a ymleddir, neu mewn cysylltiad ag etholiad o’r fath, fod yn fwy na’r canlynol—
(a)
swm cyfanredol colofn 3(a) a (b) yn y tabl yn Atodlen 1;
(b)
mewn cysylltiad â threuliau safonol yn unig, y cyfanswm yng ngholofn 3(a) yn y tabl yn Atodlen 1;
(c)
mewn cysylltiad â threuliau’r coronafeirws yn unig, y cyfanswm yng ngholofn 3(b) yn y tabl yn Atodlen 1.
(2)
Caiff swyddog canlyniadau adennill treuliau safonol yr eir iddynt ar gyfer y canlynol neu mewn cysylltiad â’r canlynol—
(a)
penodi a thalu personau i gynorthwyo’r swyddog canlyniadau etholaethol;
(b)
treuliau teithio a chynhaliaeth dros nos y swyddog canlyniadau etholaethol ac unrhyw berson a benodir i gynorthwyo’r swyddog canlyniadau etholaethol;
(c)
costau’r broses enwebu;
(d)
argraffu neu gynhyrchu fel arall y papurau pleidleisio;
(e)
argraffu neu gynhyrchu fel arall neu brynu deunyddiau pleidleisio drwy’r post;
(f)
argraffu neu gynhyrchu fel arall gardiau pleidleisio, a threfnu i’w dosbarthu;
(g)
argraffu neu gynhyrchu fel arall yr holl hysbysiadau a dogfennau etholiad, a’u cyhoeddi;
(h)
rhentu, gwresogi, goleuo, glanhau, addasu neu adfer unrhyw adeilad neu ystafell;
(i)
darparu a chludo cyfarpar;
(j)
darparu cyfarpar a meddalwedd technoleg gwybodaeth a chyfathrebu a chostau cysylltiedig;
(k)
darparu diogelwch, gan gynnwys storio blychau pleidleisio, papurau pleidleisio a dogfennau gwirio yn ddiogel;
(l)
cynnal y gwirio a’r cyfrif;
(m)
darparu a chael hyfforddiant;
(n)
darparu deunyddiau ysgrifennu a thalu costau postio, ffonio, argraffu, cyfieithu a bancio a chostau eitemau amrywiol eraill.
(3)
Caiff swyddog canlyniadau adennill treuliau yr eir iddynt o ganlyniad i’r angen i gydymffurfio â deddfiad sy’n ymwneud â’r coronafeirws neu i ddilyn canllawiau sy’n ymwneud â’r coronafeirws a ddyroddir gan Weinidogion Cymru, gan gynnwys—
(a)
penodi a thalu personau i gynorthwyo i orfodi rheoliadau’r coronafeirws;
(b)
argraffu neu gynhyrchu fel arall arwyddion sy’n ymwneud â’r coronafeirws;
(c)
cyfarpar diogelu personol ar gyfer personau sy’n cynorthwyo’r swyddog canlyniadau etholaethol a’r gweinyddwyr etholiadol;
(d)
cynhyrchion glanhau ychwanegol yn yr orsaf bleidleisio a lleoliadau cyfrif;
(e)
costau ychwanegol sy’n gysylltiedig ag angen i estyn y cyfnod dilysu a chyfrif oherwydd mesurau’r coronafeirws;
(f)
hyfforddiant ar reoliadau’r coronafeirws.