Y cyfanswm mwyaf sy’n adenilladwy am wasanaethau a ddarperir mewn etholiad etholaethol i’r Senedd a ymleddir5.
(1)
Ni chaiff y cyfanswm y caiff swyddog canlyniadau etholaethol ei adennill am wasanaethau a ddarperir ar gyfer etholiad etholaethol i’r Senedd a ymleddir, neu mewn cysylltiad ag etholiad o’r fath, fod yn fwy na’r swm a restrir ar gyfer pob etholaeth yng ngholofn 2 o’r tabl yn Atodlen 1.
(2)
Rhaid i unrhyw wasanaethau a ddarperir fod ar gyfer y canlynol neu mewn cysylltiad â’r canlynol—
(a)
gwneud trefniadau ar gyfer yr etholiad;
(b)
cynnal yr etholiad;
(c)
cyflawni holl ddyletswyddau’r swyddog canlyniadau etholaethol a’r gweinyddwr etholiadol mewn cysylltiad â’r etholiad.