2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “coronafeirws” (“coronavirus”) yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);
mae “etholaethau’r Senedd” (“Senedd constituencies”) i’w ddehongli yn unol ag adran 2(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(1);
mae “rhanbarthau etholiadol y Senedd” (“Senedd electoral regions”) i’w ddehongli yn unol ag adran 2(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
2006 p. 32; diwygiwyd adran 2 gan Ddeddf y System Bleidleisio Seneddol ac Etholaethau 2011 (p. 1) a Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020.