Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”), Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profi cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/48 (Cy. 11)) (y “Rheoliadau Atebolrwydd Gweithredwyr”) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2021 (O.S. 2021/154 (Cy. 38)) (“Rheoliadau Rhif 3”).
Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod a bennir yn unol â’r Rheoliadau hynny.
Mae’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ddarostyngedig i eithriadau, ac mae categorïau penodol o berson wedi eu hesemptio rhag gorfod cydymffurfio.
Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Ran 4 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, sy’n gwneud darpariaeth ynghylch gorfodi a throseddau a all gael eu cyflawni o dan y Rheoliadau hynny. Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 14 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn gwneud darpariaeth ar gyfer amddiffyniad esgus rhesymol mewn perthynas â’r troseddau o dan y Rheoliadau hynny o fethu â darparu gwybodaeth am deithiwr a darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol mewn perthynas â’r gofynion i ddarparu gwybodaeth am deithiwr, neu hysbysu ynghylch newidiadau i’r wybodaeth honno.
Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 1A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae Atodlen 1A i’r Rheoliadau hynny yn rhoi manylion pellach ynghylch beth yw prawf a hysbysiad dilys at ddibenion rheoliad 6A o’r Rheoliadau hynny, sy’n nodi’r gofyniad i feddu ar hysbysiad o brawf negyddol cyn cyrraedd Cymru. Mae rheoliad 3 yn diwygio cynnwys gofynnol yr hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol a nodir ym mharagraff 2 o Atodlen 1A.
Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rhan 2 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae Atodlen 2 i’r Rheoliadau hynny yn esemptio categorïau penodol o weithiwr rhag gorfod ynysu, neu o dan amgylchiadau penodol, rhag gorfod darparu gwybodaeth am deithiwr. Mae rheoliad 4 yn ehangu cwmpas yr esemptiad ar gyfer criw awyren ym mharagraff 10 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol i gynnwys criw y mae’n ofynnol iddynt deithio i’r Deyrnas Unedig fel arall at ddibenion gwaith.
Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 4 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae rheoliad 5 yn gwneud dileadau ac ychwanegiadau i Atodlen 4 er mwyn diweddaru’r rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon penodedig.
Mae Rhan 6 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau amrywiol i groesgyfeiriadau amrywiol yn y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn rhoi’r pŵer i gwnstabl i ofyn am dystiolaeth oddi wrth berson ei fod wedi archebu profion diwrnod 2 a diwrnod 8 sydd i’w cymryd ar ôl iddo gyrraedd Cymru ac wedi talu am y profion hynny. Mae hefyd yn gwneud darpariaeth sy’n rhoi’r pŵer i swyddog mewnfudo i ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i unrhyw oedolyn y mae’r swyddog yn credu’n rhesymol ei fod wedi cyflawni trosedd o dan reoliad 12E o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
Mae Rhan 7 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau technegol i destun Cymraeg paragraff 5 o Atodlen 5 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
Mae Rhan 8 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiad technegol i reoliad 2 o Reoliadau Rhif 3.
Mae Rhan 9 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Atebolrwydd Gweithredwyr o ganlyniad i’r diwygiad a wneir i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol gan Ran 3 o’r Rheoliadau hyn.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.