2021 Rhif 305 (Cy. 78)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B, 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 19841, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, dod i rym a dehongli1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021.

(2)

Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 13 Mawrth 2021.

(3)

Yn y Rheoliadau hyn—

(a)

ystyr y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 20202;

(b)

ystyr y “Rheoliadau Atebolrwydd Gweithredwyr” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 20213;

(c)

ystyr “Rheoliadau Rhif 3” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 20214.

RHAN 2Diwygiadau i Ran 4 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

Diwygiadau i reoliad 14 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (troseddau)2.

(1)

Mae rheoliad 14 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (troseddau) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)

Ym mharagraff (1B), ar ôl “rheoliad” mewnosoder “4(1) neu (4), 5(2),”.

(3)

Ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

“(2A)

Ond nid yw person yn cyflawni trosedd o dan reoliad 4 neu 5 os oes ganddo esgus rhesymol dros ddarparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i’r Ysgrifennydd Gwladol.”

RHAN 3Diwygiadau i Atodlen 1A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

Diwygiadau i baragraff 2 o Atodlen 1A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (profion cyn cyrraedd Cymru)3.

(1)

Mae Atodlen 1A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (profion cyn cyrraedd Cymru) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)

Ym mharagraff 2—

(a)

yn is-baragraff (b), yn lle “geni’r” rhodder “geni neu oedran y”;

(b)

yn lle is-baragraff (e) rhodder—

“(e)

datganiad—

(i)

bod y prawf yn brawf adwaith cadwynol polymerasau, neu

(ii)

o enw’r ddyfais a ddefnyddiwyd ar gyfer y prawf,”;

(c)

hepgorer is-baragraff (f).

RHAN 4Diwygiad i Ran 2 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

Diwygiad i baragraff 10 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (personau esempt)4.

Yn lle paragraff 10 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (personau esempt) rhodder—

“10.

(1)

Aelod o griw awyren pan fo wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith neu y mae’n ofynnol iddo deithio i’r Deyrnas Unedig fel arall at ddibenion gwaith.

(2)

At ddibenion y paragraff hwn—

(a)

ystyr “aelod o griw awyren” yw person sydd—

(i)

yn gweithredu fel peilot, llywiwr hedfan, peiriannydd hedfan neu weithredwr radioteleffoni hedfan yr awyren,

(ii)

yn cael ei gludo ar y dec hedfan ac yn cael ei benodi gan weithredwr yr awyren i roi neu i oruchwylio’r hyfforddiant, y profiad, yr ymarfer a’r profion cyfnodol sy’n ofynnol ar gyfer y criw hedfan o dan erthygl 114(2) o Orchymyn Llywio Awyr 20165, neu

(iii)

yn cael ei gludo ar yr hediad at ddiben cyflawni dyletswyddau sydd i’w haseinio gan y gweithredwr neu’r peilot sydd â rheolaeth o’r awyren er budd diogelwch teithwyr neu’r awyren;

(b)

mae teithio at ddibenion gwaith yn cynnwys, yn benodol—

(i)

pan fo’r aelod o griw awyren yn preswylio y tu allan i’r Deyrnas Unedig, teithio i’r Deyrnas Unedig i weithio ar awyren sy’n ymadael â’r Deyrnas Unedig,

(ii)

teithio i fynychu hyfforddiant sy’n gysylltiedig â gwaith yn y Deyrnas Unedig,

(iii)

dychwelyd i’r Deyrnas Unedig yn dilyn hyfforddiant sy’n gysylltiedig â gwaith y tu allan i’r Deyrnas Unedig.”

RHAN 5Diwygiadau i Atodlen 4 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

Diwygiadau i Atodlen 4 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (digwyddiadau chwaraeon penodedig)5.

Yn Atodlen 4 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (digwyddiadau chwaraeon penodedig)—

(a)

hepgorer y cofnodion a ganlyn—

“Taith Snwcer y Byd – Shoot Out,”

“British Judo – Cystadleuaeth Wahodd Gaeedig Hŷn Prydain,”

“Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol – Meistri Ladbrokes,”

“Taith Snwcer y Byd – Meistri’r Almaen,”

“Taith Snwcer y Byd – Pencampwriaeth y Chwaraewyr,”

“Taith Snwcer y Byd – Pencampwriaeth Agored Cymru,”

“Rasio ceffylau – Betfair Ascot Chase Day,”

“Digwyddiadau Tennis Cadair Olwyn Dan Do Bolton ITF,”

“Cwpan y Byd Gymnasteg FIG,”

“Rasio ceffylau – Grand National Trial Day,”

“Matchroom – Sêr Gymnasteg,”

“Matchroom – Meistri Ping Pong y Byd,”

“Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol – yr Ysgol Gymhwyso,”;

(b)

ar y diwedd mewnosoder—

“British Athletics – Treial Olympaidd Ras Gerdded 20 cilometr,

British Wrestling – Twrnamaint Gwahodd y Cenhedloedd Cartref,

Twrnamaint Tennis Cadair Olwyn Dan Do yr LTA Loughborough,

Prolog a Rownd 1 Pencampwriaeth World Endurance yr FIA Silverstone,

Cyfarfod Sbrint British Para Athletics,

Motorsport UK – Penwythnos Rasio Hanesyddol y Meistri Pencampwriaeth Fformiwla 2 yr HSCC,

Motorsport UK – Pencampwriaeth Superkart Prydain a’r Gyfres Gefnogi,

Motorsport UK – Pencampwriaeth Rasio Tryciau Prydain,

British Equestrian – Digwyddiadau Dressage Rhyngwladol,

Cyfarfod Rhyngwladol British Para Swimming,

Cage Warriors 121,

Treialon Ceffylau Badminton,

Cylchdaith Ewrop – Meistri Prydain Betfred,

Motorsport UK – Cwpan Sbrint Her y Byd Ewrop GT a’r Gyfres Gefnogi,

Motorsport UK – Gŵyl Hanesyddol Donington,

Motorsport UK – Pencampwriaeth Ceir Teithio Prydain a’r Gyfres Gefnogi,

Motorsport UK – Her Ferrari y DU a Chefnogaeth,

Motorsport UK – Pencampwriaeth GT Prydain a’r Gyfres Gefnogi / Her Sbrint Porsche Prydain Fawr a’r Gyfres Gefnogi,

Motorsport UK – Meistri Hanesyddol F1 / Sbortsceir a’r Gyfres Gefnogi,

Motorsport UK – Prif Ddigwyddiad FIA 2021 a’r Gyfres Gefnogi,

Pro League Hoci Lloegr,

Pencampwriaeth y Byd Grand Prix Speedway yr FIM – Rownd Ragbrofol,

Sioe Geffylau Royal Windsor,

Sioe Geffylau Ryngwladol Bolesworth,

Uwch-gynghrair, Pencampwriaeth a Chynghrair Ddatblygu Genedlaethol British Speedway,

Pencampwriaeth Bêl-droed Ewropeaidd UEFA 2020.”

RHAN 6Diwygiadau Amrywiol i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

Diwygiadau i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol6.

(1)

Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn rheoliad 6A(4)(d), yn lle “mharagraff 24” rhodder “mharagraff 14”.

(3)

Yn rheoliad 6B(8)—

(a)

ar ôl “mewnfudo” mewnosoder “neu gwnstabl”;

(b)

ar ôl yr ail “swyddog” mewnosoder “neu’r cwnstabl”.

(4)

Yn rheoliad 6H(4)(b)(ii), yn y testun Saesneg, ar ôl “before” hepgorer “than”.

(5)

Yn rheoliad 10(8)—

(a)

yn y diffiniad o “athletwr elît”, yn lle “mharagraff 31(2)(a)” rhodder “mharagraff 21(2)(a)”;

(b)

yn y diffiniad o “cystadleuaeth elît”, yn lle “mharagraff 31(2)(b)” rhodder “mharagraff 21(2)(b)”.

(6)

Yn rheoliad 16(1)(a)(i) (hysbysiadau cosb benodedig)—

(a)

yn lle “neu” o flaen “7(5)” rhodder “,”, a

(b)

ar ôl “7(5)” mewnosoder “neu 12E”.

RHAN 7Diwygiadau i destun Cymraeg Atodlen 5 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

Diwygiadau i Atodlen 5 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (eithriadau sectorol)7.

Ym mharagraff 5(2) o Atodlen 5 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (eithriadau sectorol), yn y testun Cymraeg—

(a)

yn lle “(d)” rhodder “(c)”;

(b)

yn lle “(e)” rhodder “(d)”.

RHAN 8Diwygiad i Reoliadau Rhif 3

Diwygiad i reoliad 2 o Reoliadau Rhif 3 (diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol)8.

Yn rheoliad 2 o Reoliadau Rhif 3 (diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol), yn lle “2 i 12” rhodder “2 i 20”.

RHAN 9Diwygiad i reoliad 4 o’r Rheoliadau Atebolrwydd Gweithredwyr

9.

Yn rheoliad 4 o’r Rheoliadau Atebolrwydd Gweithredwyr (dehongli), yn y diffiniad o “hysbysiad gofynnol”, yn lle paragraffau (e) ac (f) rhodder—

“(e)

datganiad—

(i)

bod y prawf yn brawf adwaith cadwynol polymerasau, neu

(ii)

o enw’r ddyfais a ddefnyddiwyd ar gyfer y prawf,

(f)

enw darparwr y prawf;”.

Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”), Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profi cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/48 (Cy. 11)) (y “Rheoliadau Atebolrwydd Gweithredwyr”) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2021 (O.S. 2021/154 (Cy. 38)) (“Rheoliadau Rhif 3”).

Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod a bennir yn unol â’r Rheoliadau hynny.

Mae’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ddarostyngedig i eithriadau, ac mae categorïau penodol o berson wedi eu hesemptio rhag gorfod cydymffurfio.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Ran 4 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, sy’n gwneud darpariaeth ynghylch gorfodi a throseddau a all gael eu cyflawni o dan y Rheoliadau hynny. Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 14 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn gwneud darpariaeth ar gyfer amddiffyniad esgus rhesymol mewn perthynas â’r troseddau o dan y Rheoliadau hynny o fethu â darparu gwybodaeth am deithiwr a darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol mewn perthynas â’r gofynion i ddarparu gwybodaeth am deithiwr, neu hysbysu ynghylch newidiadau i’r wybodaeth honno.

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 1A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae Atodlen 1A i’r Rheoliadau hynny yn rhoi manylion pellach ynghylch beth yw prawf a hysbysiad dilys at ddibenion rheoliad 6A o’r Rheoliadau hynny, sy’n nodi’r gofyniad i feddu ar hysbysiad o brawf negyddol cyn cyrraedd Cymru. Mae rheoliad 3 yn diwygio cynnwys gofynnol yr hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol a nodir ym mharagraff 2 o Atodlen 1A.

Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rhan 2 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae Atodlen 2 i’r Rheoliadau hynny yn esemptio categorïau penodol o weithiwr rhag gorfod ynysu, neu o dan amgylchiadau penodol, rhag gorfod darparu gwybodaeth am deithiwr. Mae rheoliad 4 yn ehangu cwmpas yr esemptiad ar gyfer criw awyren ym mharagraff 10 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol i gynnwys criw y mae’n ofynnol iddynt deithio i’r Deyrnas Unedig fel arall at ddibenion gwaith.

Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 4 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae rheoliad 5 yn gwneud dileadau ac ychwanegiadau i Atodlen 4 er mwyn diweddaru’r rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon penodedig.

Mae Rhan 6 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau amrywiol i groesgyfeiriadau amrywiol yn y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn rhoi’r pŵer i gwnstabl i ofyn am dystiolaeth oddi wrth berson ei fod wedi archebu profion diwrnod 2 a diwrnod 8 sydd i’w cymryd ar ôl iddo gyrraedd Cymru ac wedi talu am y profion hynny. Mae hefyd yn gwneud darpariaeth sy’n rhoi’r pŵer i swyddog mewnfudo i ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i unrhyw oedolyn y mae’r swyddog yn credu’n rhesymol ei fod wedi cyflawni trosedd o dan reoliad 12E o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

Mae Rhan 7 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau technegol i destun Cymraeg paragraff 5 o Atodlen 5 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

Mae Rhan 8 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiad technegol i reoliad 2 o Reoliadau Rhif 3.

Mae Rhan 9 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Atebolrwydd Gweithredwyr o ganlyniad i’r diwygiad a wneir i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol gan Ran 3 o’r Rheoliadau hyn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.