Offerynnau Statudol Cymru
Iechyd Planhigion, Cymru
Gwnaed
12 Mawrth 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
15 Mawrth 2021
Yn dod i rym
8 Ebrill 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan Erthyglau 22(2) a 144(6) o Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ar iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion i ddiogelu planhigion(1) (“y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori yn unol ag Erthygl 144(7) o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol cyn gwneud y Rheoliadau hyn.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) (Diwygio) 2021 a deuant i rym ar 8 Ebrill 2021.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rhan hon—
(a)ystyr “y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol” yw Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ar iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion i ddiogelu planhigion;
(b)mae i “trydedd wlad berthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant third country” gan Atodiad 6 i’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol;
(c)ystyr “nwyddau penodedig” yw planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill a bennir yn yr Atodlen i Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ac Amodau Ffytoiechydol (Diwygio) 2021(2);
(d)mae i “y cyfnod graddoli trosiannol” yr ystyr a roddir i “the transitional staging period” gan Atodiad 6 i’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol.
3.—(1) Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020(3) yn cael effaith mewn perthynas â nwyddau penodedig sy’n dod i Brydain Fawr o drydedd wlad berthnasol yn ystod y cyfnod graddoli trosiannol, yn ddarostyngedig i’r addasiadau a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn y lle priodol, mewnosoder—
“ystyr “cyrchfan” (“place of destination”) mewn perthynas ag unrhyw nwyddau penodedig, yw’r man cyntaf y danfonir y nwyddau iddo ar gyfer eu dadlwytho ym Mhrydain Fawr, ac at y diben hwn ystyr “nwyddau penodedig” (“specified goods”) yw planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill a bennir yn yr Atodlen i Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ac Amodau Ffytoiechydol (Diwygio) 2021;”.
(3) Yn Atodlen 3, yn Rhan 2—
(a)yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 47(5), yn yr ail golofn, ar y diwedd mewnosoder “neu’r gyrchfan, neu, pan fo’n ofynnol, unrhyw fan arall a bennir yn Erthygl 44(3)”;
(b)yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 50(1), yn yr ail golofn, ar y diwedd mewnosoder “neu’r gyrchfan neu, pan fo’n ofynnol, unrhyw fan arall a bennir yn Erthygl 44(3)”;
(c)ar ôl y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 56(4)—
(i)yn y golofn gyntaf, mewnosoder “Erthygl 56A(4)”;
(ii)yn yr ail golofn, mewnosoder—
“Yn ystod y cyfnod graddoli trosiannol, yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr nwyddau perthnasol o drydedd wlad berthnasol roi hysbysiad ymlaen llaw i’r awdurdod cymwys perthnasol cyn yr adeg y disgwylir i’r nwyddau gyrraedd pwynt mynediad ym Mhrydain Fawr.”
(4) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw ran o’r cyfnod graddoli trosiannol sy’n digwydd cyn 8 Ebrill 2021.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
12 Mawrth 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gysylltiedig â Rhan 2 o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ac Amodau Ffytoiechydol (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/136), ac mae rhai elfennau o’r Rheoliadau hynny yn gymwys o ran Cymru. Roedd y Rheoliadau hynny yn gwneud darpariaeth i ychwanegu at Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill (“y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”). Yn benodol, roeddent yn ychwanegu at, ac yn addasu, y rhanddirymiadau trosiannol a’r addasiadau trosiannol a nodwyd yn Erthygl 168 o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol, ac Atodiad 6 iddo, drwy ddarparu i reolaethau swyddogol a gynhelir ar nwyddau penodol a restrir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hynny gael eu cynnal yn y gyrchfan.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau cysylltiedig i ddarpariaethau sy’n ymwneud â throseddau yn Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/206 (Cy. 48)) i gynnwys arolygiadau yn y gyrchfan yn y fframwaith gorfodi presennol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
EUR 2017/625, a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/1481; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol. Gweler Erthygl 3(2A) am y diffiniad o “the appropriate authority”.
O.S. 2020/206 (W. 48), a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/1134 (Cy. 259), O.S. 2020/1303 (Cy. 288) ac O.S. 2020/1628 (Cy. 342).
Mewnosodwyd Erthygl 56A yn Rheoliad (EU) 2017/625 gan Atodiad 6. Mewnosodwyd Atodiad 6 yn Rheoliad (EU) 2017/625 gan reoliad 29(4) o O.S. 2020/1481 at ddiben cymhwyso Rheoliad (EU) 2017/625 a’i randdirymiadau, ac addasu ei gymhwyso, mewn perthynas â thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i drefniadau mewnforio trosiannol arbennig.