2021 Rhif 302 (Cy. 76)
Iechyd Planhigion, Cymru

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) (Diwygio) 2021

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan Erthyglau 22(2) a 144(6) o Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ar iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion i ddiogelu planhigion1 (“y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori yn unol ag Erthygl 144(7) o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol cyn gwneud y Rheoliadau hyn.

RHAN 1Enwi, cychwyn a chymhwyso

Enwi, cychwyn a chymhwyso1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) (Diwygio) 2021 a deuant i rym ar 8 Ebrill 2021.

(2)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

RHAN 2Cyrchfannau

Dehongli2.

Yn y Rhan hon—

(a)

ystyr “y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol” yw Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ar iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion i ddiogelu planhigion;

(b)

mae i “trydedd wlad berthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant third country” gan Atodiad 6 i’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol;

(c)

ystyr “nwyddau penodedig” yw planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill a bennir yn yr Atodlen i Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ac Amodau Ffytoiechydol (Diwygio) 20212;

(d)

mae i “y cyfnod graddoli trosiannol” yr ystyr a roddir i “the transitional staging period” gan Atodiad 6 i’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol.

Troseddau3.

(1)

Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 20203 yn cael effaith mewn perthynas â nwyddau penodedig sy’n dod i Brydain Fawr o drydedd wlad berthnasol yn ystod y cyfnod graddoli trosiannol, yn ddarostyngedig i’r addasiadau a ganlyn.

(2)

Yn rheoliad 2(1), yn y lle priodol, mewnosoder—

“ystyr “cyrchfan” (“place of destination”) mewn perthynas ag unrhyw nwyddau penodedig, yw’r man cyntaf y danfonir y nwyddau iddo ar gyfer eu dadlwytho ym Mhrydain Fawr, ac at y diben hwn ystyr “nwyddau penodedig” (“specified goods”) yw planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill a bennir yn yr Atodlen i Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ac Amodau Ffytoiechydol (Diwygio) 2021;”.

(3)

Yn Atodlen 3, yn Rhan 2—

(a)

yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 47(5), yn yr ail golofn, ar y diwedd mewnosoder “neu’r gyrchfan, neu, pan fo’n ofynnol, unrhyw fan arall a bennir yn Erthygl 44(3)”;

(b)

yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 50(1), yn yr ail golofn, ar y diwedd mewnosoder “neu’r gyrchfan neu, pan fo’n ofynnol, unrhyw fan arall a bennir yn Erthygl 44(3)”;

(c)

ar ôl y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 56(4)—

(i)

yn y golofn gyntaf, mewnosoder “Erthygl 56A4”;

(ii)

yn yr ail golofn, mewnosoder—

“Yn ystod y cyfnod graddoli trosiannol, yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr nwyddau perthnasol o drydedd wlad berthnasol roi hysbysiad ymlaen llaw i’r awdurdod cymwys perthnasol cyn yr adeg y disgwylir i’r nwyddau gyrraedd pwynt mynediad ym Mhrydain Fawr.”

(4)

Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw ran o’r cyfnod graddoli trosiannol sy’n digwydd cyn 8 Ebrill 2021.

Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gysylltiedig â Rhan 2 o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ac Amodau Ffytoiechydol (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/136), ac mae rhai elfennau o’r Rheoliadau hynny yn gymwys o ran Cymru. Roedd y Rheoliadau hynny yn gwneud darpariaeth i ychwanegu at Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill (“y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”). Yn benodol, roeddent yn ychwanegu at, ac yn addasu, y rhanddirymiadau trosiannol a’r addasiadau trosiannol a nodwyd yn Erthygl 168 o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol, ac Atodiad 6 iddo, drwy ddarparu i reolaethau swyddogol a gynhelir ar nwyddau penodol a restrir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hynny gael eu cynnal yn y gyrchfan.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau cysylltiedig i ddarpariaethau sy’n ymwneud â throseddau yn Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/206 (Cy. 48)) i gynnwys arolygiadau yn y gyrchfan yn y fframwaith gorfodi presennol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.