Search Legislation

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) (Diwygio) 2021

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 302 (Cy. 76)

Iechyd Planhigion, Cymru

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) (Diwygio) 2021

Gwnaed

12 Mawrth 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

15 Mawrth 2021

Yn dod i rym

8 Ebrill 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan Erthyglau 22(2) a 144(6) o Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ar iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion i ddiogelu planhigion(1) (“y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori yn unol ag Erthygl 144(7) o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol cyn gwneud y Rheoliadau hyn.

RHAN 1Enwi, cychwyn a chymhwyso

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) (Diwygio) 2021 a deuant i rym ar 8 Ebrill 2021.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

RHAN 2Cyrchfannau

Dehongli

2.  Yn y Rhan hon—

(a)ystyr “y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol” yw Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ar iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion i ddiogelu planhigion;

(b)mae i “trydedd wlad berthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant third country” gan Atodiad 6 i’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol;

(c)ystyr “nwyddau penodedig” yw planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill a bennir yn yr Atodlen i Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ac Amodau Ffytoiechydol (Diwygio) 2021(2);

(d)mae i “y cyfnod graddoli trosiannol” yr ystyr a roddir i “the transitional staging period” gan Atodiad 6 i’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol.

Troseddau

3.—(1Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020(3) yn cael effaith mewn perthynas â nwyddau penodedig sy’n dod i Brydain Fawr o drydedd wlad berthnasol yn ystod y cyfnod graddoli trosiannol, yn ddarostyngedig i’r addasiadau a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1), yn y lle priodol, mewnosoder—

ystyr “cyrchfan” (“place of destination”) mewn perthynas ag unrhyw nwyddau penodedig, yw’r man cyntaf y danfonir y nwyddau iddo ar gyfer eu dadlwytho ym Mhrydain Fawr, ac at y diben hwn ystyr “nwyddau penodedig” (“specified goods”) yw planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill a bennir yn yr Atodlen i Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ac Amodau Ffytoiechydol (Diwygio) 2021;.

(3Yn Atodlen 3, yn Rhan 2—

(a)yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 47(5), yn yr ail golofn, ar y diwedd mewnosoder “neu’r gyrchfan, neu, pan fo’n ofynnol, unrhyw fan arall a bennir yn Erthygl 44(3)”;

(b)yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 50(1), yn yr ail golofn, ar y diwedd mewnosoder “neu’r gyrchfan neu, pan fo’n ofynnol, unrhyw fan arall a bennir yn Erthygl 44(3)”;

(c)ar ôl y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 56(4)—

(i)yn y golofn gyntaf, mewnosoder “Erthygl 56A(4)”;

(ii)yn yr ail golofn, mewnosoder—

Yn ystod y cyfnod graddoli trosiannol, yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr nwyddau perthnasol o drydedd wlad berthnasol roi hysbysiad ymlaen llaw i’r awdurdod cymwys perthnasol cyn yr adeg y disgwylir i’r nwyddau gyrraedd pwynt mynediad ym Mhrydain Fawr.

(4Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw ran o’r cyfnod graddoli trosiannol sy’n digwydd cyn 8 Ebrill 2021.

Lesley Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

12 Mawrth 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gysylltiedig â Rhan 2 o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ac Amodau Ffytoiechydol (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/136), ac mae rhai elfennau o’r Rheoliadau hynny yn gymwys o ran Cymru. Roedd y Rheoliadau hynny yn gwneud darpariaeth i ychwanegu at Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill (“y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”). Yn benodol, roeddent yn ychwanegu at, ac yn addasu, y rhanddirymiadau trosiannol a’r addasiadau trosiannol a nodwyd yn Erthygl 168 o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol, ac Atodiad 6 iddo, drwy ddarparu i reolaethau swyddogol a gynhelir ar nwyddau penodol a restrir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hynny gael eu cynnal yn y gyrchfan.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau cysylltiedig i ddarpariaethau sy’n ymwneud â throseddau yn Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/206 (Cy. 48)) i gynnwys arolygiadau yn y gyrchfan yn y fframwaith gorfodi presennol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

EUR 2017/625, a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/1481; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol. Gweler Erthygl 3(2A) am y diffiniad o “the appropriate authority”.

(4)

Mewnosodwyd Erthygl 56A yn Rheoliad (EU) 2017/625 gan Atodiad 6. Mewnosodwyd Atodiad 6 yn Rheoliad (EU) 2017/625 gan reoliad 29(4) o O.S. 2020/1481 at ddiben cymhwyso Rheoliad (EU) 2017/625 a’i randdirymiadau, ac addasu ei gymhwyso, mewn perthynas â thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i drefniadau mewnforio trosiannol arbennig.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources