2. Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ran 1 o’r Ddeddf (anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol) i rym ar 31 Mawrth 2021—
(a)adran 1 (y ddyletswydd sector cyhoeddus ynghylch anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol), i’r graddau y mae’n gymwys i awdurdod perthnasol fel y diffinnir “relevant authority” gan adran 2(6) o’r Ddeddf;
(b)adran 3 (gorfodi), at ddibenion adran 1 i’r graddau y mae’n gymwys i awdurdod perthnasol fel y diffinnir “relevant authority” gan adran 2(6) o’r Ddeddf.