2021 Rhif 297 (Cy. 74) (C. 9)
Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Arbed) 2021
Gwnaed
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 175(7) ac (8) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 20211.
Enwi a dehongli1
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Arbed) 2021.
2
Yn y Gorchymyn hwn—
mae i “arolygiad arbennig” (“special inspection”) yr un ystyr ag yn adran 21(10) o Fesur 2009;
ystyr “awdurdod Parc Cenedlaethol” (“National Park authority”) yw awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;
ystyr “Mesur 2009” (“the 2009 Measure”) yw Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 20092;
mae i “prif gyngor” (“principal council”) yr un ystyr ag yn adran 171(1) o Ddeddf 2021;
ystyr “trefniant cydlafurio” (“collaboration arrangement”) yw unrhyw drefniant, unrhyw drafodiad, neu unrhyw gytundeb arall a wnaed yn unol ag unrhyw un o’r pwerau a restrir yn adran 9(2) o Fesur 2009.
3
At ddibenion erthyglau 4 a 6, mae arolygiad arbennig yn cychwyn—
a
ar yr adeg y mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn hysbysu prif gyngor o dan adran 21(7)(a) o Fesur 2009, neu
b
mewn achosion pan fo Gweinidogion Cymru wedi gofyn i Archwilydd Cyffredinol Cymru i gynnal arolygiad yn unol ag adran 21(4) o Fesur 2009, ar yr adeg y gwneir y cais hwnnw.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 20212
Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2021 i rym ar 1 Ebrill 2021, i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym—
a
adrannau 89 i 91;
b
adrannau 95 i 115;
c
Pennod 3 o Ran 6;
d
Rhan 7;
e
adran 159;
f
adran 169;
g
Atodlen 1, ac eithrio’r darpariaethau sydd i ddod i rym ar 6 Mai 2022 yn unol ag adran 175(6)(b) o Ddeddf 2021;
h
Atodlen 10;
i
Atodlen 11;
j
Atodlen 12.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 5 Mai 20223
Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2021 i rym ar 5 Mai 2022—
a
adrannau 92 a 93;
b
Pennod 2 o Ran 6.
Arbedion: parhau i gymhwyso Mesur 2009 mewn perthynas â phrif gynghorau4
1
Er bod adran 113 o Ddeddf 2021 yn dod i rym (yn rhinwedd erthygl 2(b)), nid yw’r diwygiadau a wnaed gan y ddarpariaeth honno yn cael unrhyw effaith (ac mae Mesur 2009 yn parhau i fod yn gymwys fel pe na bai adran 113 wedi dod i rym) mewn perthynas ag—
a
trefniant cydlafurio yr ymrwymwyd iddo, neu y cytunwyd iddo, cyn 1 Ebrill 2021, pan fo o leiaf un o’r partïon yn brif gyngor;
b
dyletswydd prif gyngor i wneud trefniadau yn unol ag adran 15 o Fesur 2009 ar gyfer cyhoeddi—
i
yr wybodaeth a ddisgrifir yn is-adran (2) o’r adran honno i’r graddau y mae’n ymwneud â’r flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020;
ii
crynodeb o unrhyw adroddiad y cyfeirir ato yn is-adran (4) o’r adran honno mewn cysylltiad ag arolygiad arbennig o’r awdurdod a gychwynnwyd cyn 1 Ebrill 2021 (pa un a ddyroddwyd yr adroddiad cyn y dyddiad hwnnw ai peidio);
c
dyletswydd Archwilydd Cyffredinol Cymru i gynnal archwiliad o dan adran 17 o Fesur 2009 at ddiben penderfynu a yw prif gyngor, yn ystod y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020, wedi cyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 15(1) i (5) o Fesur 2009, ac i ba raddau y mae’r awdurdod, yn ystod y flwyddyn honno, wedi gweithredu yn unol ag unrhyw ganllawiau a ddyroddwyd o dan adran 15(8);
d
dyletswydd Archwilydd Cyffredinol Cymru i ddyroddi, yn ystod y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2021, adroddiad neu adroddiadau o dan adran 19(1) o Fesur 2009 mewn cysylltiad â phob prif gyngor—
i
sy’n ardystio, yn unol ag is-adran (1)(a) o’r adran honno, bod yr Archwilydd Cyffredinol wedi cynnal archwiliad o dan adran 17 mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020;
ii
sy’n datgan, yn unol ag is-adran (1)(b) o’r adran honno, a yw’r Archwilydd Cyffredinol, o ganlyniad i’r archwiliad hwnnw, yn credu—
aa
bod yr awdurdod wedi cyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 15(1) i (5) o Fesur 2009, a
bb
bod yr awdurdod wedi gweithredu yn unol ag unrhyw ganllawiau a ddyroddwyd o dan adran 15(8);
iii
sy’n argymell, os yw’r Archwilydd Cyffredinol yn credu ei bod yn briodol yng ngoleuni’r archwiliad hwnnw, unrhyw un neu ragor o’r materion a nodir yn adran 19(1)(f), (g) neu (h)3 o Fesur 2009;
e
dyletswydd Archwilydd Cyffredinol Cymru i anfon copi o adroddiad a grybwyllir yn is-baragraff (d) yn unol ag adran 19(2) a (3) o Fesur 2009 ac unrhyw orchymyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (3)(b) o’r adran honno;
f
pŵer Gweinidogion Cymru i ddyroddi cyfarwyddyd o dan adran 19(4) o Fesur 2009 mewn perthynas ag adroddiad a grybwyllir yn is-baragraff (d);
g
dyletswydd prif gyngor i ymateb i adroddiad a grybwyllir yn is-baragraff (d) yn unol ag adran 20(1) i (3) a (5) o Fesur 2009 (ac mae is-adran (6) o’r adran honno yn parhau i gael effaith at y dibenion hynny);
h
pwerau a dyletswyddau Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan adran 21 o Fesur 2009 mewn cysylltiad ag arolygiad arbennig o brif gyngor a gychwynnwyd cyn 1 Ebrill 2021;
i
pwerau a dyletswyddau Archwilydd Cyffredinol Cymru i ddyroddi, cyhoeddi, ac anfon copïau o adroddiad o dan adran 22 o Fesur 2009 mewn cysylltiad ag arolygiad arbennig o brif gyngor a gychwynnwyd cyn 1 Ebrill 2021, yn unol ag is-adrannau (2), (3) a (5) o’r adran honno;
j
graddfeydd ffioedd a ragnodir gan Swyddfa Archwilio Cymru o dan adran 27 o Fesur 2009 mewn cysylltiad ag—
i
arolygiad arbennig o brif gyngor a gychwynnwyd cyn 1 Ebrill 2021, neu
ii
archwiliad o brif gyngor a gynhaliwyd o dan adran 17 o Fesur 2009 mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020;
k
pwerau a dyletswyddau prif gyngor a Swyddfa Archwilio Cymru o dan adran 27(3), (4) a (4A) mewn cysylltiad ag—
i
arolygiad arbennig o brif gyngor a gychwynnwyd cyn 1 Ebrill 2021, neu
ii
archwiliad o brif gyngor a gynhaliwyd o dan adran 17 o Fesur 2009 mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020;
l
unrhyw gymorth neu gynhorthwy a ddarperir i brif gyngor o dan adran 28 o Fesur 2009 ar 1 Ebrill 2021, ac mae adran 28 yn parhau i gael effaith mewn cysylltiad ag unrhyw gymorth neu gynhorthwy o’r fath ar ôl 1 Ebrill 2021;
m
unrhyw gyfarwyddyd a roddwyd i brif gyngor o dan adran 29 o Fesur 2009 cyn 1 Ebrill 2021, ac mae adran 29 yn parhau i gael effaith mewn cysylltiad ag unrhyw gyfarwyddyd o’r fath ar ôl 1 Ebrill 2021;
n
unrhyw gyfarwyddyd a roddwyd i brif gyngor o dan adran 30 o Fesur 2009 cyn 1 Ebrill 2021, ac mae adran 30 yn parhau i gael effaith mewn perthynas ag unrhyw gyfarwyddyd o’r fath ar ôl 1 Ebrill 2021.
2
Er bod adran 113 o Ddeddf 2021 yn dod i rym (yn rhinwedd erthygl 2(b)), mae’r diffiniad o “pwerau cydlafurio” sydd wedi ei gynnwys yn adran 11 o Fesur 2009 yn parhau i gael effaith at ddiben erthygl 4(1)(b), fel pe na bai adran 113 wedi dod i rym.
Arbedion: rhannu gwybodaeth5
1
Er bod adran 113 o Ddeddf 2021 yn dod i rym (yn rhinwedd erthygl 2(b)), mae adrannau 33 a 34 o Fesur 2009 yn parhau i gael effaith, fel pe na bai adran 113 wedi dod i rym, at ddiben rhannu gwybodaeth a dogfennau—
a
a gafwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru neu a ddangoswyd iddo wrth arfer swyddogaethau o dan adrannau 17 a 19 o Fesur 2009 mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020, neu
b
at ddiben arfer gan Archwilydd Cyffredinol Cymru y swyddogaethau hynny mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol honno.
2
At y diben a ddisgrifir ym mharagraff (1), mae’r darpariaethau a ganlyn yn parhau i gael effaith fel pe na bai adran 113 o Ddeddf 2021 wedi dod i rym—
a
y diffiniadau o “rheoleiddwyr perthnasol” a “swyddogaethau perthnasol” sydd wedi eu cynnwys yn adran 16 o Fesur 2009;
b
swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru a grybwyllir yn adran 23(7)(b) o Fesur 2009.
Arbedion: parhau i gymhwyso Mesur 2009 mewn perthynas ag awdurdodau Parciau Cenedlaethol6
1
Er bod adran 169 o Ddeddf 2021 yn dod i rym (yn rhinwedd erthygl 2(f)), nid yw’r diwygiadau a wnaed gan y ddarpariaeth honno yn cael unrhyw effaith (ac mae Mesur 2009 yn parhau i fod yn gymwys fel pe na bai adran 169 wedi dod i rym) mewn perthynas ag—
a
trefniant cydlafurio yr ymrwymwyd iddo, neu y cytunwyd iddo, cyn 1 Ebrill 2021, pan fo o leiaf un o’r partïon yn awdurdod Parc Cenedlaethol;
b
dyletswydd awdurdod Parc Cenedlaethol i wneud trefniadau yn unol ag adran 15 o Fesur 2009 ar gyfer cyhoeddi—
i
yr wybodaeth a ddisgrifir yn is-adran (2) o’r adran honno i’r graddau y mae’n ymwneud â’r flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020;
ii
crynodeb o unrhyw adroddiad y cyfeirir ato yn is-adran (4) o’r adran honno mewn cysylltiad ag arolygiad arbennig o’r awdurdod a gychwynnwyd cyn 1 Ebrill 2021 (pa un a gyhoeddwyd yr adroddiad cyn y dyddiad hwnnw ai peidio);
c
dyletswydd Archwilydd Cyffredinol Cymru i gynnal archwiliad o dan adran 17 o Fesur 2009 at ddiben penderfynu a yw awdurdod Parc Cenedlaethol, yn ystod y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020, wedi cyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 15(1) i (5) o Fesur 2009, ac i ba raddau y mae’r awdurdod wedi gweithredu yn ystod y flwyddyn honno yn unol ag unrhyw ganllawiau a ddyroddwyd o dan adran 15(8);
d
dyletswydd Archwilydd Cyffredinol Cymru i ddyroddi, yn ystod y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2021, adroddiad neu adroddiadau o dan adran 19(1) o Fesur 2009 mewn cysylltiad â phob awdurdod Parc Cenedlaethol—
i
sy’n ardystio bod yr Archwilydd Cyffredinol, yn unol ag is-adran (1)(a) o’r adran honno, wedi cynnal archwiliad o dan adran 17 mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020;
ii
sy’n datgan, yn unol ag is-adran (1)(b) o’r adran honno, a yw’r Archwilydd Cyffredinol, o ganlyniad i’r archwiliad hwnnw, yn credu—
aa
bod yr awdurdod wedi cyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 15(1) i (5) o Fesur 2009, a
bb
bod yr awdurdod wedi gweithredu yn unol ag unrhyw ganllawiau a ddyroddwyd o dan adran 15(8);
iii
sy’n argymell, os yw’r Archwilydd Cyffredinol yn credu ei bod yn briodol yng ngoleuni’r archwiliad hwnnw, unrhyw un neu ragor o’r materion a nodir yn adran 19(1)(f), (g) neu (h)4 o Fesur 2009;
e
dyletswydd Archwilydd Cyffredinol Cymru i anfon copi o adroddiad a grybwyllir yn is-baragraff (d) yn unol ag adran 19(2) a (3) o Fesur 2009 ac unrhyw orchymyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (3)(b) o’r adran honno;
f
pŵer Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddyd o dan adran 19(4) o Fesur 2009 mewn perthynas ag adroddiad a grybwyllir yn is-baragraff (d);
g
dyletswydd awdurdod Parc Cenedlaethol i ymateb i adroddiad a grybwyllir yn is-baragraff (d) yn unol ag adran 20(1) i (3) a (5) o Fesur 2009 (ac mae is-adran (6) o’r adran honno yn parhau i gael effaith at y dibenion hynny);
h
pwerau a dyletswyddau Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan adran 21 o Fesur 2009 mewn cysylltiad ag arolygiad arbennig o awdurdod Parc Cenedlaethol a gychwynnwyd cyn 1 Ebrill 2021;
i
pwerau a dyletswyddau Archwilydd Cyffredinol Cymru i ddyroddi, cyhoeddi, ac anfon copïau o adroddiad o dan adran 22 o Fesur 2009 mewn cysylltiad ag arolygiad arbennig o awdurdod Parc Cenedlaethol a gychwynnwyd cyn 1 Ebrill 2021, yn unol ag is-adrannau (2) a (3) o’r adran honno;
j
graddfeydd ffioedd a ragnodir gan Swyddfa Archwilio Cymru o dan adran 27 o Fesur 2009 mewn cysylltiad ag—
i
arolygiad arbennig o awdurdod Parc Cenedlaethol a gychwynnwyd cyn 1 Ebrill 2021, neu
ii
archwiliad o awdurdod Parc Cenedlaethol a gynhaliwyd o dan adran 17 o Fesur 2009 mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020;
k
pwerau a dyletswyddau awdurdod Parc Cenedlaethol a Swyddfa Archwilio Cymru o dan adran 27(3), (4) a (4A) mewn cysylltiad â—
i
arolygiad arbennig o awdurdod Parc Cenedlaethol a gychwynnwyd cyn 1 Ebrill 2021, neu
ii
archwiliad o awdurdod Parc Cenedlaethol a gynhaliwyd o dan adran 17 o Fesur 2009 mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020;
l
unrhyw gymorth neu gynhorthwy a ddarperir i awdurdod Parc Cenedlaethol o dan adran 28 o Fesur 2009 ar 1 Ebrill 2021, ac mae adran 28 yn parhau i gael effaith mewn cysylltiad ag unrhyw gymorth neu gynhorthwy o’r fath ar ôl 1 Ebrill 2021;
m
unrhyw gyfarwyddyd a roddwyd i awdurdod Parc Cenedlaethol o dan adran 29 o Fesur 2009 cyn 1 Ebrill 2021, ac mae adran 29 yn parhau i gael effaith mewn cysylltiad ag unrhyw gyfarwyddyd o’r fath ar ôl 1 Ebrill 2021;
n
unrhyw gyfarwyddyd a roddwyd i awdurdod Parc Cenedlaethol o dan adran 30 o Fesur 2009 cyn 1 Ebrill 2021, ac mae adran 30 yn parhau i gael effaith mewn perthynas ag unrhyw gyfarwyddyd o’r fath ar ôl 1 Ebrill 2021.
2
Er bod adran 169 o Ddeddf 2021 yn dod i rym (yn rhinwedd erthygl 2(f)), mae’r diffiniad o “pwerau cydlafurio” sydd wedi ei gynnwys yn adran 11 o Fesur 2009 yn parhau i gael effaith at ddiben erthygl 6(1)(b), fel pe na bai adran 169 wedi dod i rym.
Arbedion: pwerau a dyletswyddau arolygwyr7
Er bod adrannau 113 a 169 o Ddeddf 2021 yn dod i rym (yn rhinwedd erthygl 2(b) ac (f)), mae adran 26 o Fesur 2009 yn parhau i gael effaith, fel pe na bai adrannau 113 a 169 wedi dod i rym, at ddiben—
a
arolygiad arbennig o brif gyngor neu awdurdod Parc Cenedlaethol a gychwynnwyd cyn 1 Ebrill 2021, neu
b
archwiliad o brif gyngor neu awdurdod Parc Cenedlaethol a gynhaliwyd o dan adran 17 o Fesur 2009 mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020.
Arbedion: canllawiau8
Er bod adrannau 113 a 169 o Ddeddf 2021 yn dod i rym (yn rhinwedd erthygl 2(b) ac (f))—
a
rhaid i brif gynghorau ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol barhau i roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddwyd o dan adran 15(8) o Fesur 2009 wrth gyflawni eu dyletswydd o dan adran 15 i wneud trefniadau i gyhoeddi’r wybodaeth a ddisgrifir yn erthyglau 4(1)(b) a 6(1)(b);
b
rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru barhau i roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddwyd o dan adran 21(9) o Fesur 2009 wrth gynnal arolygiad arbennig a ddisgrifir yn erthyglau 4(1)(h) a 6(1)(h).
Arbedion: achos troseddol9
Nid yw’r ffaith bod adrannau 113 a 169 o Ddeddf 2021 yn dod i rym (yn rhinwedd erthygl 2(b) ac (f)) yn cael unrhyw effaith mewn perthynas ag unrhyw drosedd a gyflawnwyd, neu yr honnir iddi gael ei chyflawni, o dan adran 26(9) o Fesur 2009 cyn 1 Ebrill 2021.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”) wedi eu dwyn i rym drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
|---|---|---|
Adran 24 | 1 Tachwedd 2021 | |
Adran 25 | 1 Tachwedd 2021 | |
Adran 26 | 1 Tachwedd 2021 | |
Adran 27 | 1 Tachwedd 2021 | |
Adran 28 | 4 Mawrth 2021 | |
Adran 29 | 1 Tachwedd 2021 | |
Adran 30(3) | 4 Mawrth 2021 | |
Adran 30 (y gweddill) | 5 Mai 2022 | |
Adran 31 | 5 Mai 2022 | |
Adran 32 | 5 Mai 2022 | |
Adran 33 | 5 Mai 2022 | |
Adran 34 | 5 Mai 2022 | |
Adran 35 | 4 Mawrth 2021 | |
Adran 36 | 5 Mai 2022 | |
Adran 37 | 5 Mai 2022 | |
Adran 39 | 5 Mai 2022 | |
Adran 40 | 5 Mai 2022 | |
Adran 41 | 5 Mai 2022 | |
Adran 42 | 5 Mai 2022 | |
Adran 43 | 5 Mai 2022 | |
Adran 44 | 5 Mai 2022 | |
Adran 45 | 5 Mai 2022 | |
Adrannau 46(1)(b) ac (c), (2)(b), (3), (4), ac (8) i (10) (yn rhannol) | 4 Mawrth 2021 | |
Adran 46 (y gweddill) | 5 Mai 2022 | |
Adran 47(8) | 4 Mawrth 2021 | |
Adran 48 | 5 Mai 2022 | |
Adran 52 | 1 Ebrill 2022 | |
Adran 54 | 5 Mai 2022 | |
Adran 56 | 5 Mai 2022 | |
Adran 57 | 5 Mai 2022 | |
Adran 58 | 5 Mai 2022 | |
Adran 59 | 4 Mawrth 2021 | |
Adran 62 | 5 Mai 2022 | |
Adran 63 | 5 Mai 2022 | |
Adran 65 | 5 Mai 2022 | |
Adran 66 | 5 Mai 2022 | |
Adran 67 | 5 Mai 2022 | |
Adran 161(1) | 4 Mawrth 2021 | |
Adran 161 (y gweddill) | 5 Mai 2022 | |
Adran 162 | 5 Mai 2022 | |
Adran 163 | 1 Ebrill 2021 | |
Adran 164 | 1 Ebrill 2021 | |
Rhan 1 o Atodlen 3 | 1 Tachwedd 2021 | |
Rhan 2 o Atodlen 3 | 5 Mai 2022 | |
Atodlen 5 | 5 Mai 2022 | |
Atodlen 6 (yn rhannol) | 5 Mai 2022 | |
Atodlen 7 | 5 Mai 2022 | |
Atodlen 13 | 5 Mai 2022 |
Gweler adran 175(1) o Ddeddf 2021 ar gyfer darpariaethau a ddaeth i rym drannoeth y diwrnod y cafodd Deddf 2021 y Cydsyniad Brenhinol. Gweler adran 175(3) ar gyfer darpariaethau a ddaeth i rym 2 fis ar ôl i Ddeddf 2021 gael y Cydsyniad Brenhinol. Cafodd Deddf 2021 y Cydsyniad Brenhinol ar 20 Ionawr 2021. Gweler hefyd adran 175(4) o Ddeddf 2021 ar gyfer darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2021.