Search Legislation

Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Arbed) 2021

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Arbedion: parhau i gymhwyso Mesur 2009 mewn perthynas â phrif gynghorau

4.—(1Er bod adran 113 o Ddeddf 2021 yn dod i rym (yn rhinwedd erthygl 2(b)), nid yw’r diwygiadau a wnaed gan y ddarpariaeth honno yn cael unrhyw effaith (ac mae Mesur 2009 yn parhau i fod yn gymwys fel pe na bai adran 113 wedi dod i rym) mewn perthynas ag—

(a)trefniant cydlafurio yr ymrwymwyd iddo, neu y cytunwyd iddo, cyn 1 Ebrill 2021, pan fo o leiaf un o’r partïon yn brif gyngor;

(b)dyletswydd prif gyngor i wneud trefniadau yn unol ag adran 15 o Fesur 2009 ar gyfer cyhoeddi—

(i)yr wybodaeth a ddisgrifir yn is-adran (2) o’r adran honno i’r graddau y mae’n ymwneud â’r flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020;

(ii)crynodeb o unrhyw adroddiad y cyfeirir ato yn is-adran (4) o’r adran honno mewn cysylltiad ag arolygiad arbennig o’r awdurdod a gychwynnwyd cyn 1 Ebrill 2021 (pa un a ddyroddwyd yr adroddiad cyn y dyddiad hwnnw ai peidio);

(c)dyletswydd Archwilydd Cyffredinol Cymru i gynnal archwiliad o dan adran 17 o Fesur 2009 at ddiben penderfynu a yw prif gyngor, yn ystod y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020, wedi cyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 15(1) i (5) o Fesur 2009, ac i ba raddau y mae’r awdurdod, yn ystod y flwyddyn honno, wedi gweithredu yn unol ag unrhyw ganllawiau a ddyroddwyd o dan adran 15(8);

(d)dyletswydd Archwilydd Cyffredinol Cymru i ddyroddi, yn ystod y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2021, adroddiad neu adroddiadau o dan adran 19(1) o Fesur 2009 mewn cysylltiad â phob prif gyngor—

(i)sy’n ardystio, yn unol ag is-adran (1)(a) o’r adran honno, bod yr Archwilydd Cyffredinol wedi cynnal archwiliad o dan adran 17 mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020;

(ii)sy’n datgan, yn unol ag is-adran (1)(b) o’r adran honno, a yw’r Archwilydd Cyffredinol, o ganlyniad i’r archwiliad hwnnw, yn credu—

(aa)bod yr awdurdod wedi cyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 15(1) i (5) o Fesur 2009, a

(bb)bod yr awdurdod wedi gweithredu yn unol ag unrhyw ganllawiau a ddyroddwyd o dan adran 15(8);

(iii)sy’n argymell, os yw’r Archwilydd Cyffredinol yn credu ei bod yn briodol yng ngoleuni’r archwiliad hwnnw, unrhyw un neu ragor o’r materion a nodir yn adran 19(1)(f), (g) neu (h)(1) o Fesur 2009;

(e)dyletswydd Archwilydd Cyffredinol Cymru i anfon copi o adroddiad a grybwyllir yn is-baragraff (d) yn unol ag adran 19(2) a (3) o Fesur 2009 ac unrhyw orchymyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (3)(b) o’r adran honno;

(f)pŵer Gweinidogion Cymru i ddyroddi cyfarwyddyd o dan adran 19(4) o Fesur 2009 mewn perthynas ag adroddiad a grybwyllir yn is-baragraff (d);

(g)dyletswydd prif gyngor i ymateb i adroddiad a grybwyllir yn is-baragraff (d) yn unol ag adran 20(1) i (3) a (5) o Fesur 2009 (ac mae is-adran (6) o’r adran honno yn parhau i gael effaith at y dibenion hynny);

(h)pwerau a dyletswyddau Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan adran 21 o Fesur 2009 mewn cysylltiad ag arolygiad arbennig o brif gyngor a gychwynnwyd cyn 1 Ebrill 2021;

(i)pwerau a dyletswyddau Archwilydd Cyffredinol Cymru i ddyroddi, cyhoeddi, ac anfon copïau o adroddiad o dan adran 22 o Fesur 2009 mewn cysylltiad ag arolygiad arbennig o brif gyngor a gychwynnwyd cyn 1 Ebrill 2021, yn unol ag is-adrannau (2), (3) a (5) o’r adran honno;

(j)graddfeydd ffioedd a ragnodir gan Swyddfa Archwilio Cymru o dan adran 27 o Fesur 2009 mewn cysylltiad ag—

(i)arolygiad arbennig o brif gyngor a gychwynnwyd cyn 1 Ebrill 2021, neu

(ii)archwiliad o brif gyngor a gynhaliwyd o dan adran 17 o Fesur 2009 mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020;

(k)pwerau a dyletswyddau prif gyngor a Swyddfa Archwilio Cymru o dan adran 27(3), (4) a (4A) mewn cysylltiad ag—

(i)arolygiad arbennig o brif gyngor a gychwynnwyd cyn 1 Ebrill 2021, neu

(ii)archwiliad o brif gyngor a gynhaliwyd o dan adran 17 o Fesur 2009 mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020;

(l)unrhyw gymorth neu gynhorthwy a ddarperir i brif gyngor o dan adran 28 o Fesur 2009 ar 1 Ebrill 2021, ac mae adran 28 yn parhau i gael effaith mewn cysylltiad ag unrhyw gymorth neu gynhorthwy o’r fath ar ôl 1 Ebrill 2021;

(m)unrhyw gyfarwyddyd a roddwyd i brif gyngor o dan adran 29 o Fesur 2009 cyn 1 Ebrill 2021, ac mae adran 29 yn parhau i gael effaith mewn cysylltiad ag unrhyw gyfarwyddyd o’r fath ar ôl 1 Ebrill 2021;

(n)unrhyw gyfarwyddyd a roddwyd i brif gyngor o dan adran 30 o Fesur 2009 cyn 1 Ebrill 2021, ac mae adran 30 yn parhau i gael effaith mewn perthynas ag unrhyw gyfarwyddyd o’r fath ar ôl 1 Ebrill 2021.

(2Er bod adran 113 o Ddeddf 2021 yn dod i rym (yn rhinwedd erthygl 2(b)), mae’r diffiniad o “pwerau cydlafurio” sydd wedi ei gynnwys yn adran 11 o Fesur 2009 yn parhau i gael effaith at ddiben erthygl 4(1)(b), fel pe na bai adran 113 wedi dod i rym.

(1)

Ond nid yw adrannau 21, 28, a 29 o Fesur 2009 wedi eu harbed at y dibenion hynny.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources