Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) 2021

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 296 (Cy. 73)

Llywodraeth Leol, Cymru

Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) 2021

Gwnaed

10 Mawrth 2021

Coming into force

1 Ebrill 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 173 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Cymeradwywyd drafft o’r Rheoliadau hyn drwy benderfyniad gan Senedd Cymru yn unol ag adran 174(4) a (5)(t) o’r Ddeddf honno.