Offerynnau Statudol Cymru
2021 Rhif 295 (Cy. 72)
Cydraddoldeb, Cymru
Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau sy’n ddarostyngedig i ddyletswydd ynghylch Anghydraddoldebau Economaidd-gymdeithasol) (Cymru) 2021
Gwnaed
10 Mawrth 2021
Yn dod i rym
30 Mawrth 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 2(4)(a) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010(1).
Yn unol ag adran 209(2), (3)(a) a (6) oְ’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru, ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a chychwyn
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau sy’n ddarostyngedig i ddyletswydd ynghylch Anghydraddoldebau Economaidd-gymdeithasol) (Cymru) 2021 a deuant i rym ar 30 Mawrth 2021.
Diwygio adran 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010
2. Yn adran 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (y ddyletswydd sector cyhoeddus ynghylch anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol), ar ôl is-adran (3)(2), mewnosoder—
“(3A) This section also applies to the following authorities—
(a)the Welsh Ministers;
(b)a county council or county borough council in Wales;
(c)a Local Health Board established under section 11 of the National Health Service (Wales) Act 2006(3);
(d)an NHS Trust established under section 18 of the National Health Service (Wales) Act 2006;
(e)a Special Health Authority established under section 22(4) of the National Health Service (Wales) Act 2006 other than a cross-border Special Health Authority (within the meaning of section 8A(5)(5) of the National Health Service (Wales) Act 2006);
(f)a fire and rescue authority constituted by a scheme under section 2(6) of the Fire and Rescue Services Act 2004, or a scheme to which section 4 of that Act applies, for an area in Wales;
(g)a National Park authority established by an order under section 63 of the Environment Act 1995(7) for an area in Wales;
(h)the Welsh Revenue Authority or Awdurdod Cyllid Cymru.”
Jane Hutt
Y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, o dan awdurdod Gweinidogion Cymru
10 Mawrth 2021
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio adran 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (“y Ddeddf”) er mwyn ychwanegu awdurdodau at y rhestr o awdurdodau sy’n ddarostyngedig i ddyletswydd sector cyhoeddus ynghylch anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol o dan adran 1(1) o’r Ddeddf honno.
Mae’r rhestr o awdurdodau Cymreig a bennir yn adran 1(3A) o’r Ddeddf yn awdurdodau sy’n bodloni’r prawf yn adran 2(6) o’r Ddeddf, hynny yw, maent yn awdurdodau Cymreig datganoledig (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” yn adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006), y mae eu swyddogaethau’n cyfateb i swyddogaethau awdurdod a bennir am y tro yn is-adran (3) o adran 1 neu y cyfeirir ato yn is-adran (4) o’r adran honno, neu y mae eu swyddogaethau’n debyg i swyddogaethau awdurdod o’r fath.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Y Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
2010 p. 15. Mae adran 2(4) yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio adran 1 o Ddeddf 2010 er mwyn, ymhlith pethau eraill, ychwanegu awdurdod perthnasol at yr awdurdodau sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan adran 1. Mae “relevant authority” wedi ei ddiffinio yn adran 2(6). Diwygiwyd adran 2(6) gan baragraff 83(1) a (2) o Atodlen 6 i Ddeddf Cymru 2017 (p. 4) (“Deddf 2017”). Hepgorwyd is-adrannau (7), (9) a (10) o adran 2 gan adran 45(3) o Ddeddf 2017 a hepgorwyd paragraff (b) o is-adran (11) gan baragraff 83(3) o Atodlen 6 i Ddeddf 2017. Mae diwygiadau eraill i adran 2 ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol iְ’r Rheoliadau hyn.
Hepgorwyd paragraffau (h) ac (i) o adran 1(3) gan baragraff 181(a) a (b) o Atodlen 5 i Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p. 7) (“Deddf 2012”). Diddymwyd adran 1(3)(j) gan baragraff 1 o Atodlen 6 i Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011 (p. 24). Mae diwygiadau eraill i adran 1 ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Hepgorwyd adran 22(6) gan baragraff 18 o Atodlen 21 i Ddeddf 2012.
Mewnosodwyd adran 8A gan baragraff 14 o Atodlen 21 i Ddeddf 2012.
2004 p. 21, y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.