Gorchymyn Cod Ymarfer Treuliau Etholiad Ymgeiswyr (Etholiadau’r Senedd) 2021 (Diwrnod Penodedig) 2021
Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi llunio Cod Ymarfer drafft ac yn unol â pharagraff 14(2) o Atodlen 7 i Orchymyn 2007 wedi ei gyflwyno i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo ganddynt.
Mae Gweinidogion Cymru wedi cymeradwyo’r Cod Ymarfer drafft ac yn unol â pharagraff 14(4) o Atodlen 7 i Orchymyn 2007, gosodwyd drafft o God Ymarfer Treuliau Etholiad Ymgeiswyr (Etholiadau’r Senedd) 2021 gerbron Senedd Cymru ar 20 Ionawr 2021.
Yn unol â pharagraff 14(6) o Atodlen 7 i Orchymyn 2007, o fewn cyfnod o 40 niwrnod, ni phenderfynodd Senedd Cymru beidio â chymeradwyo Cod Ymarfer drafft Treuliau Etholiad Ymgeiswyr (Etholiadau’r Senedd) 2021, a dyroddwyd y Cod ar ffurf y drafft.
Enwi a dehongli1.
(1)
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cod Ymarfer Treuliau Etholiad Ymgeiswyr (Etholiadau’r Senedd) 2021 (Diwrnod Penodedig) 2021.
(2)
Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Cod Ymarfer” yw Cod Ymarfer Treuliau Etholiad Ymgeiswyr (Etholiadau’r Senedd) 2021, y gosodwyd drafft ohono gerbron Senedd Cymru ar 20 Ionawr 2021.
Y diwrnod penodedig2.
Y diwrnod penodedig i’r Cod Ymarfer ddod i rym yw 9 Mawrth 2021.
Mae’r Gorchymyn hwn yn pennu 9 Mawrth 2021 fel y diwrnod y daw Cod Ymarfer Treuliau Etholiad Ymgeiswyr (Etholiadau’r Senedd) 2021 (“y Cod Ymarfer”) i rym.
Lluniodd y Comisiwn Etholiadol y Cod Ymarfer a’i gyflwyno i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo ganddynt. Mae Gweinidogion Cymru wedi cymeradwyo’r Cod Ymarfer, a osodwyd gerbron Senedd Cymru ar 20 Ionawr 2021.
Ni phenderfynodd y Senedd beidio â chymeradwyo’r Cod Ymarfer ac o ganlyniad, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn sy’n dyroddi’r Cod Ymarfer, fel y’i gosodwyd gerbron y Senedd.