Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 255 (Cy. 68)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2021

Gwnaed

5 Mawrth 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

8 Mawrth 2021

Yn dod i rym

12 Ebrill 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 50, 52, 53(3), 61, 196(2) a 198(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2021.

(2Dawʼr Rheoliadau hyn i rym ar 12 Ebrill 2021.

Diwygio Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015

2.  Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn—

(a)yn rheoliad 13 (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal) yn lle “£32” rhodder “£33”;

(b)yn rheoliad 28 (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal) yn lle “£32” rhodder “£33”.

Julie Morgan

Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

5 Mawrth 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”).

Mae Rheoliadau 2015 yn nodi’r gofynion y mae rhaid i awdurdodau lleol eu bodloni wrth ddyfarnu swm y ffioedd sy’n gymwys mewn perthynas â gofal a chymorth y maent yn eu darparu neu’n eu trefnu neu’n cynnig eu darparu neu eu trefnu wrth gyflawni eu swyddogaethau o dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”). Mae Rheoliadau 2015 hefyd yn cynnwys darpariaethau cyfochrog sy’n nodi’r gofynion sy’n gymwys pan fo awdurdod lleol yn gwneud taliadau uniongyrchol i ddiwallu angen person am ofal a chymorth.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rhan 2 o Reoliadau 2015 (codi ffioedd o dan Ran 5 o’r Ddeddf) fel bod cynnydd yn yr isafswm incwm wythnosol ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal o £32 i £33.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rhan 4 o Reoliadau 2015 (cyfraniadau ac ad-daliadau am daliadau uniongyrchol) fel bod cynnydd yn yr isafswm incwm wythnosol net ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal ac sy’n cael taliadau uniongyrchol o dan y Ddeddf o £32 i £33.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.