2021 Rhif 255 (Cy. 68)
Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2021
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 50, 52, 53(3), 61, 196(2) a 198(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 20141, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a chychwyn1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2021.
2
Dawʼr Rheoliadau hyn i rym ar 12 Ebrill 2021.
Diwygio Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 20152
Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 20152 wedi eu diwygio fel a ganlyn—
a
yn rheoliad 13 (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal) yn lle “£32” rhodder “£33”;
b
yn rheoliad 28 (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal) yn lle “£32” rhodder “£33”.
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)