(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (“yr GDCG”).
Mae erthygl 3 o’r GDCG, ac Atodlen 2 iddo, yn rhoi hawliau datblygu a ganiateir mewn cysylltiad â datblygiadau penodol. Pan roddir yr hawliau hynny, nid yw cais am ganiatâd cynllunio yn ofynnol.
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio paragraff A.2(c) o Ran 3A o Atodlen 2 i’r GDCG (adeiladu dros dro a newid defnydd at ddibenion argyfwng iechyd y cyhoedd). Pan fo paragraff A.2(c) yn gymwys, mae’r amserlen ar gyfer symud y datblygiad ymaith wedi ei diwygio fel bod y cyfnod wedi ei estyn o ddeuddeng mis i ddeunaw mis ar gyfer y datblygiadau hynny sy’n dechrau cyn 10 Ebrill 2021. Ar gyfer y datblygiadau hynny sy’n dechrau ar 10 Ebrill 2021 neu ar ôl hynny, mae’r cyfnod yn parhau i fod yn ddeuddeng mis. Ym mhob achos, mae’r amser yn dechrau o’r dyddiad y dechreuodd y datblygu.
Mae erthygl 4 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio paragraff A.1(b) o Ran 12A o Atodlen 2 i’r GDCG (datblygu brys gan awdurdodau lleol). Pan fo paragraff A.1(b) yn gymwys, mae’r amserlen ar gyfer symud y datblygiad ymaith wedi ei diwygio fel bod y cyfnod wedi ei estyn o ddeuddeng mis i ddeunaw mis ar gyfer y datblygiadau hynny sy’n dechrau cyn 30 Mawrth 2021. Ar gyfer y datblygiadau hynny sy’n dechrau ar 30 Mawrth 2021 neu ar ôl hynny, mae’r cyfnod yn parhau i fod yn ddeuddeng mis. Ym mhob achos, mae’r amser yn dechrau o’r dyddiad y dechreuodd y datblygu.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.