Offerynnau Statudol Cymru
Landlord A Thenant, Cymru
Gwnaed
5 Mawrth 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
9 Mawrth 2021
Yn dod i rym
31 Mawrth 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 82(12) o Ddeddf y Coronafeirws 2020(1).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tenantiaethau Busnes (Estyn Gwarchodaeth rhag Fforffediad etc.) (Cymru) (Coronafeirws) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Mawrth 2021.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 31.3.2021, gweler rhl. 1(2)
2. At ddibenion adran 82 (tenantiaethau busnes yng Nghymru a Lloegr: gwarchodaeth rhag fforffediad etc.) o Ddeddf y Coronafeirws 2020, mae’r “relevant period”, fel y’i diffinnir yn is-adran (12) o’r adran honno yn gorffen, o ran Cymru, â 30 Mehefin 2021.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 31.3.2021, gweler rhl. 1(2)
3. Mae Rheoliadau Tenantiaethau Busnes (Estyn Gwarchodaeth rhag Fforffediad etc.) (Cymru) (Coronafeirws) (Rhif 3) 2020(2) wedi eu dirymu.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 31.3.2021, gweler rhl. 1(2)
Ken Skates
Y Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, un o Weinidogion Cymru
5 Mawrth 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae adran 82 o Ddeddf y Coronafeirws 2020 yn sicrhau na chaniateir gorfodi ailfynediad neu fforffediad am beidio â thalu rhent mewn perthynas â thenantiaethau busnes perthnasol yn ystod y cyfnod perthnasol (“relevant period”). Mae adran 82(12) o’r Ddeddf yn diffinio’r “relevant period” fel cyfnod sy’n dechrau ar 26 Mawrth 2020, ac sy’n dod i ben ar 30 Mehefin 2020, neu ar unrhyw ddyddiad diweddarach a bennir mewn rheoliadau a wneir gan yr awdurdod cenedlaethol perthnasol.
Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod cenedlaethol perthnasol o ran Cymru.
Estynnodd Rheoliadau Tenantiaethau Busnes (Estyn Gwarchodaeth rhag Fforffediad etc.) (Cymru) (Coronafeirws) 2020 (O.S. 2020/606 (Cy. 140)) y cyfnod perthnasol hyd 30 Medi 2020.
Estynnodd Rheoliadau Tenantiaethau Busnes (Estyn Gwarchodaeth rhag Fforffediad etc.) (Cymru) (Coronafeirws) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/960 (Cy. 214)) y cyfnod perthnasol ymhellach hyd 31 Rhagfyr 2020.
Estynnodd Rheoliadau Tenantiaethau Busnes (Estyn Gwarchodaeth rhag Fforffediad etc.) (Cymru) (Coronafeirws) (Rhif 3) 2020 (O.S. 2020/1456 (Cy. 314)) y cyfnod perthnasol ymhellach hyd 31 Mawrth 2021.
O ganlyniad i’r Rheoliadau hyn, mae’r moratoriwm a ddarperir gan adran 82 o’r Ddeddf wedi ei estyn ymhellach hyd 30 Mehefin 2021.
Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn estyn y cyfnod perthnasol hyd 30 Mehefin 2021.
Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Tenantiaethau Busnes (Estyn Gwarchodaeth rhag Fforffediad etc.) (Cymru) (Coronafeirws) (Rhif 3) 2020.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.