(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Mabwysiadu a Maethu (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Coronafeirws) 2020 (“Rheoliadau 2020”).
Mae’r Rheoliadau hyn yn estyn dyddiad dod i ben Rheoliadau 2020 mewn ymateb i’r pandemig COVID-19.
Prif effaith y Rheoliadau hyn yw diwygio dyddiad dod i ben rheoliadau 2, 3, 4, 6, 7 ac 8 o Reoliadau 2020 drwy roi 30 Medi 2021 yn lle 31 Mawrth 2021. Mae hyn yn golygu bod y diwygiadau a wneir gan reoliadau 2, 3, 4, 6, 7 ac 8 o Reoliadau 2020 yn parhau i gael effaith tan 30 Medi 2021.
Effaith eilaidd y Rheoliadau hyn yw na fydd y diwygiadau a wneir gan reoliad 5 o Reoliadau 2020 yn dod i ben mwyach ar 31 Mawrth 2021.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.