Rheoliadau Mabwysiadu a Maethu (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Coronafeirws) (Diwygio) 2021

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 251 (Cy. 65)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Mabwysiadu a Maethu (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Coronafeirws) (Diwygio) 2021

Gwnaed

5 Mawrth 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

8 Mawrth 2021

Yn dod i rym

30 Mawrth 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 9(1)(a), 140(7) ac (8) a 142(5) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(1) ac adrannau 87 a 196(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(2).

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mabwysiadu a Maethu (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Coronafeirws) (Diwygio) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Mawrth 2021.

Diwygio Rheoliadau Mabwysiadu a Maethu (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Coronafeirws) 2020

2.—(1Mae Rheoliadau Mabwysiadu a Maethu (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Coronafeirws) 2020(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 9(1), yn lle “mae’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn peidio â chael effaith ar 31 Mawrth 2021” rhodder “mae’r diwygiadau a wneir gan reoliadau 2, 3, 4, 6, 7 ac 8 yn peidio â chael effaith ar 30 Medi 2021.

(3Yn rheoliad 10, yn lle “31 Mawrth 2021” rhodder “30 Medi 2021”.

Julie Morgan

Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

5 Mawrth 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Mabwysiadu a Maethu (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Coronafeirws) 2020 (“Rheoliadau 2020”).

Mae’r Rheoliadau hyn yn estyn dyddiad dod i ben Rheoliadau 2020 mewn ymateb i’r pandemig COVID-19.

Prif effaith y Rheoliadau hyn yw diwygio dyddiad dod i ben rheoliadau 2, 3, 4, 6, 7 ac 8 o Reoliadau 2020 drwy roi 30 Medi 2021 yn lle 31 Mawrth 2021. Mae hyn yn golygu bod y diwygiadau a wneir gan reoliadau 2, 3, 4, 6, 7 ac 8 o Reoliadau 2020 yn parhau i gael effaith tan 30 Medi 2021.

Effaith eilaidd y Rheoliadau hyn yw na fydd y diwygiadau a wneir gan reoliad 5 o Reoliadau 2020 yn dod i ben mwyach ar 31 Mawrth 2021.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

2002 p. 38 (“Deddf 2002”). Gweler y diffiniadau o “regulations”, “appropriate Minister” a “the Assembly” yn adran 144(1) o Ddeddf 2002. Trosglwyddwyd y pŵer a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud rheoliadau o dan Ddeddf 2002 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(2)

2014 dccc 4; gweler y diffiniad o “rheoliadau” yn adran 197(1).