Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2021
Enwi a chychwyn1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2021.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2021.
Diwygio Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) 20132.
(1)
(2)
“Amodau rhagnodedig14.
At ddibenion adran 26(1) o’r Mesur, yr amodau rhagnodedig yw—
(a)
bod yr aelod yn fabwysiadydd i’r plentyn;
(b)
bod yr aelod yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r pennaeth gwasanaethau democrataidd am—
(i)
y dyddiad y mae’r aelod yn bwriadu i absenoldeb y mabwysiadydd ddechrau; a
(ii)
hyd y cyfnod o absenoldeb mabwysiadydd y mae’r aelod yn bwriadu ei gymryd, os yw’n llai na 26 o wythnosau;
(c)
pan fo’r aelod yn dymuno amrywio dechrau’r absenoldeb mabwysiadydd sydd wedi ei bennu o dan baragraff (b)(i), bod yr aelod yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r pennaeth gwasanaethau democrataidd o’r dyddiad dechrau newydd o leiaf un wythnos cyn y dyddiad a bennir o dan baragraff (b)(i), neu o leiaf un wythnos cyn y dyddiad newydd, pa un bynnag sydd gynharaf, neu, os nad yw hynny’n rhesymol ymarferol, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol; a
(d)
pan fo’r aelod yn dymuno amrywio hyd yr absenoldeb mabwysiadydd, bod yr aelod yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r pennaeth gwasanaethau democrataidd o’r hyd newydd o leiaf un wythnos cyn diwedd y cyfnod o absenoldeb a ddisgwylir yn unol â’r hyd a bennwyd o dan baragraff (b)(ii), neu o leiaf un wythnos cyn diwedd arfaethedig newydd y cyfnod o absenoldeb, pa un bynnag sydd gynharaf, neu os nad yw hynny’n rhesymol ymarferol, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.”
(3)
“Y cyfnod o absenoldeb mabwysiadydd15.
(1)
Y cyfnod o absenoldeb mabwysiadydd yw 26 o wythnosau, oni bai bod yr aelod yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig o dan reoliad 14(b)(ii), (d) neu 17A y bydd y cyfnod o absenoldeb mabwysiadydd yn llai na 26 o wythnosau.
(2)
Pan fo mwy nag un plentyn yn cael ei leoli gyda’r aelod fel rhan o’r un trefniant, nid oes gan yr aelod yr hawl i absenoldeb mabwysiadydd ond mewn perthynas â’r plentyn cyntaf a leolir gyda’r aelod ar gyfer ei fabwysiadu.”
(4)
“Pryd y caniateir cymryd absenoldeb mabwysiadydd16.
Ni chaniateir cymryd absenoldeb mabwysiadydd ond fel ei fod yn dechrau naill ai—
(a)
ar y diwrnod y mae’r plentyn yn cael ei leoli gyda’r aelod ar gyfer ei fabwysiadu; neu
(b)
ar unrhyw un o’r 14 o ddiwrnodau cyn y diwrnod hwnnw.”
(5)
“Aelod i ddewis dyddiad dechrau’r absenoldeb mabwysiadydd17.
Yn ddarostyngedig i reoliad 16, caiff aelod ddewis ar ba ddyddiad y mae ei absenoldeb mabwysiadydd i ddechrau.”
(6)
“Terfynu cyfnod o absenoldeb mabwysiadydd17A.
Caiff aelod derfynu cyfnod o absenoldeb mabwysiadydd yn gynharach na diwedd y cyfnod a nodwyd yn rheoliad 15, a hysbyswyd o dan reoliad 14(b)(ii) neu a amrywiwyd o dan reoliad 14(d) drwy hysbysu’r pennaeth gwasanaethau democrataidd yn ysgrifenedig o’i fwriad i wneud hynny o leiaf 7 niwrnod cyn iddo ddychwelyd.”
(7)
Yn rheoliad 38(1), ar ôl “absenoldeb mamolaeth” mewnosoder “, absenoldeb mabwysiadydd”.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2013 (O.S. 2013/2901 (Cy. 280)) (“Rheoliadau 2013”).
Mae Rheoliadau 2013 yn sicrhau bod yr hawl i gyfnodau o absenoldeb teuluol ar gael i aelodau awdurdodau lleol. Mae pum math o absenoldeb teuluol: absenoldeb mamolaeth; absenoldeb newydd-anedig; absenoldeb mabwysiadydd; absenoldeb mabwysiadu newydd ac absenoldeb rhiant.
Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn amnewid amrywiol reoliadau yn Rheoliadau 2013 fel a ganlyn.
Mae rheoliad 2(2) yn rhoi rheoliad 14 newydd yn lle’r un bresennol, sy’n rhagnodi amodau y mae rhaid i aelod eu bodloni er mwyn bod yn gymwys ar gyfer absenoldeb mabwysiadydd. Mae hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch sut y caniateir amrywio hyd absenoldeb mabwysiadydd neu’r dyddiad y mae absenoldeb mabwysiadydd yn dechrau.
Mae rheoliad 2(3) yn rhoi rheoliad 15 newydd yn lle’r un bresennol, sy’n darparu mai cyfnod absenoldeb mabwysiadydd yw 26 o wythnosau oni bai bod yr aelod yn darparu hysbysiad ysgrifenedig i’r gwrthwyneb (o dan reoliad 14) neu’n terfynu’r cyfnod absenoldeb mabwysiadydd (o dan reoliad 17A).
Mae rheoliad 2(4) yn rhoi rheoliad 16 newydd yn lle’r un bresennol, sy’n gwneud darpariaeth ynghylch pryd y caniateir i gyfnod absenoldeb mabwysiadydd ddechrau.
Mae rheoliad 2(5) yn rhoi rheoliad 17 newydd yn lle’r un bresennol, sy’n darparu, yn ddarostyngedig i reoliad 16, y caniateir i aelod o awdurdod lleol (fel y’i diffinnir yn adran 33 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011) ddewis pryd y mae ei absenoldeb mabwysiadydd yn dechrau.
Mae rheoliad 2(6) yn mewnosod rheoliad 17A newydd sy’n gwneud darpariaeth ynghylch sut y caiff aelod o awdurdod lleol derfynu ei absenoldeb mabwysiadydd yn gynharach na diwedd y cyfnod a bennir yn rheoliad 15, y rhoddwyd hysbysiad yn ei gylch o dan reoliad 14(b)(ii) neu a amrywiwyd o dan reoliad 14(d).
Mae rheoliad 2(7) yn diwygio rheoliad 38 fel ei fod yn gymwys i absenoldeb mabwysiadydd. O ganlyniad, caiff aelod o awdurdod lleol fod yn bresennol mewn cyfarfodydd a chyflawni dyletswyddau yn unol â’r rheoliad hwnnw.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.