- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Gwnaed
3 Mawrth 2021
Yn dod i rym
1 Ebrill 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 26(1), (2), (4) a (5)(a) o Fesur Llywodraeth Leol 2011(1).
Yn unol ag adran 172(2)(a)(2) o’r Mesur hwnnw, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2021.
2.—(1) Mae Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2013(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle rheoliad 14 rhodder—
14. At ddibenion adran 26(1) o’r Mesur, yr amodau rhagnodedig yw—
(a)bod yr aelod yn fabwysiadydd i’r plentyn;
(b)bod yr aelod yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r pennaeth gwasanaethau democrataidd am—
(i)y dyddiad y mae’r aelod yn bwriadu i absenoldeb y mabwysiadydd ddechrau; a
(ii)hyd y cyfnod o absenoldeb mabwysiadydd y mae’r aelod yn bwriadu ei gymryd, os yw’n llai na 26 o wythnosau;
(c)pan fo’r aelod yn dymuno amrywio dechrau’r absenoldeb mabwysiadydd sydd wedi ei bennu o dan baragraff (b)(i), bod yr aelod yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r pennaeth gwasanaethau democrataidd o’r dyddiad dechrau newydd o leiaf un wythnos cyn y dyddiad a bennir o dan baragraff (b)(i), neu o leiaf un wythnos cyn y dyddiad newydd, pa un bynnag sydd gynharaf, neu, os nad yw hynny’n rhesymol ymarferol, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol; a
(d)pan fo’r aelod yn dymuno amrywio hyd yr absenoldeb mabwysiadydd, bod yr aelod yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r pennaeth gwasanaethau democrataidd o’r hyd newydd o leiaf un wythnos cyn diwedd y cyfnod o absenoldeb a ddisgwylir yn unol â’r hyd a bennwyd o dan baragraff (b)(ii), neu o leiaf un wythnos cyn diwedd arfaethedig newydd y cyfnod o absenoldeb, pa un bynnag sydd gynharaf, neu os nad yw hynny’n rhesymol ymarferol, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.”
(3) Yn lle rheoliad 15 rhodder—
15.—(1) Y cyfnod o absenoldeb mabwysiadydd yw 26 o wythnosau, oni bai bod yr aelod yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig o dan reoliad 14(b)(ii), (d) neu 17A y bydd y cyfnod o absenoldeb mabwysiadydd yn llai na 26 o wythnosau.
(2) Pan fo mwy nag un plentyn yn cael ei leoli gyda’r aelod fel rhan o’r un trefniant, nid oes gan yr aelod yr hawl i absenoldeb mabwysiadydd ond mewn perthynas â’r plentyn cyntaf a leolir gyda’r aelod ar gyfer ei fabwysiadu.”
(4) Yn lle rheoliad 16 rhodder—
16. Ni chaniateir cymryd absenoldeb mabwysiadydd ond fel ei fod yn dechrau naill ai—
(a)ar y diwrnod y mae’r plentyn yn cael ei leoli gyda’r aelod ar gyfer ei fabwysiadu; neu
(b)ar unrhyw un o’r 14 o ddiwrnodau cyn y diwrnod hwnnw.”
(5) Yn lle rheoliad 17 rhodder—
17. Yn ddarostyngedig i reoliad 16, caiff aelod ddewis ar ba ddyddiad y mae ei absenoldeb mabwysiadydd i ddechrau.”
(6) Ar ôl rheoliad 17 mewnosoder—
17A. Caiff aelod derfynu cyfnod o absenoldeb mabwysiadydd yn gynharach na diwedd y cyfnod a nodwyd yn rheoliad 15, a hysbyswyd o dan reoliad 14(b)(ii) neu a amrywiwyd o dan reoliad 14(d) drwy hysbysu’r pennaeth gwasanaethau democrataidd yn ysgrifenedig o’i fwriad i wneud hynny o leiaf 7 niwrnod cyn iddo ddychwelyd.”
(7) Yn rheoliad 38(1), ar ôl “absenoldeb mamolaeth” mewnosoder “, absenoldeb mabwysiadydd”.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
3 Mawrth 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2013 (O.S. 2013/2901 (Cy. 280)) (“Rheoliadau 2013”).
Mae Rheoliadau 2013 yn sicrhau bod yr hawl i gyfnodau o absenoldeb teuluol ar gael i aelodau awdurdodau lleol. Mae pum math o absenoldeb teuluol: absenoldeb mamolaeth; absenoldeb newydd-anedig; absenoldeb mabwysiadydd; absenoldeb mabwysiadu newydd ac absenoldeb rhiant.
Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn amnewid amrywiol reoliadau yn Rheoliadau 2013 fel a ganlyn.
Mae rheoliad 2(2) yn rhoi rheoliad 14 newydd yn lle’r un bresennol, sy’n rhagnodi amodau y mae rhaid i aelod eu bodloni er mwyn bod yn gymwys ar gyfer absenoldeb mabwysiadydd. Mae hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch sut y caniateir amrywio hyd absenoldeb mabwysiadydd neu’r dyddiad y mae absenoldeb mabwysiadydd yn dechrau.
Mae rheoliad 2(3) yn rhoi rheoliad 15 newydd yn lle’r un bresennol, sy’n darparu mai cyfnod absenoldeb mabwysiadydd yw 26 o wythnosau oni bai bod yr aelod yn darparu hysbysiad ysgrifenedig i’r gwrthwyneb (o dan reoliad 14) neu’n terfynu’r cyfnod absenoldeb mabwysiadydd (o dan reoliad 17A).
Mae rheoliad 2(4) yn rhoi rheoliad 16 newydd yn lle’r un bresennol, sy’n gwneud darpariaeth ynghylch pryd y caniateir i gyfnod absenoldeb mabwysiadydd ddechrau.
Mae rheoliad 2(5) yn rhoi rheoliad 17 newydd yn lle’r un bresennol, sy’n darparu, yn ddarostyngedig i reoliad 16, y caniateir i aelod o awdurdod lleol (fel y’i diffinnir yn adran 33 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011) ddewis pryd y mae ei absenoldeb mabwysiadydd yn dechrau.
Mae rheoliad 2(6) yn mewnosod rheoliad 17A newydd sy’n gwneud darpariaeth ynghylch sut y caiff aelod o awdurdod lleol derfynu ei absenoldeb mabwysiadydd yn gynharach na diwedd y cyfnod a bennir yn rheoliad 15, y rhoddwyd hysbysiad yn ei gylch o dan reoliad 14(b)(ii) neu a amrywiwyd o dan reoliad 14(d).
Mae rheoliad 2(7) yn diwygio rheoliad 38 fel ei fod yn gymwys i absenoldeb mabwysiadydd. O ganlyniad, caiff aelod o awdurdod lleol fod yn bresennol mewn cyfarfodydd a chyflawni dyletswyddau yn unol â’r rheoliad hwnnw.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
2011 mccc 4. Hepgorwyd adran 26(3) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 gan adran 61(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1), gan ddileu’r terfyn ar hyd absenoldeb mabwysiadydd y caniateir ei bennu mewn rheoliadau. Gweler adran 33 am y diffiniad perthnasol o “rheoliadau” ac adran 175 am y diffiniad o “rhagnodedig”.
Mae’r cyfeiriad yn adran 172(2) at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32). Diwygiwyd adran 172(2)(a) gan adran 150(1)(b)(i) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021; mae adran 150(1)(b)(ii) hefyd yn gwneud diwygiad arall i adran 172(2)(a) nad yw mewn grym eto.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: