2. Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), hepgorer y cofnod a ganlyn—
“Yr Emiraethau Arabaidd Unedig”.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 2 mewn grym ar 12.1.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
3.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a)yn cyrraedd Cymru am 4:00 a.m. ar 12 Ionawr 2021 neu wedi hynny, a
(b)wedi bod yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig ddiwethaf—
(i)o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, a
(ii)cyn 4.00 a.m. ar 12 Ionawr 2021.
(2) Mae P, yn rhinwedd y ffaith iddo fod yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig, i’w drin at ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol fel pe bai wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, neu fel pe bai wedi cyrraedd ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 3 mewn grym ar 12.1.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)