RHAN 2Diwygiad i’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

Hepgor yr Emiraethau Arabaidd Unedig o’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt2.

Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), hepgorer y cofnod a ganlyn—

“Yr Emiraethau Arabaidd Unedig”.

Annotations:
Commencement Information

I1Rhl. 2 mewn grym ar 12.1.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â rheoliad 23.

(1)

Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo person (“P”)—

(a)

yn cyrraedd Cymru am 4:00 a.m. ar 12 Ionawr 2021 neu wedi hynny, a

(b)

wedi bod yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig ddiwethaf—

(i)

o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, a

(ii)

cyn 4.00 a.m. ar 12 Ionawr 2021.

(2)

Mae P, yn rhinwedd y ffaith iddo fod yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig, i’w drin at ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol fel pe bai wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, neu fel pe bai wedi cyrraedd ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath.