Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 24 (Cy. 8)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) 2021

Gwnaed

11 Ionawr 2021

Yn dod i rym

am 4.00 a.m. ar 12 Ionawr 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 12.30 p.m. ar 12 Ionawr 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, dod i rym a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 12 Ionawr 2021.

(3Yn y Rheoliadau hyn, ystyr y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020(2).

RHAN 2Diwygiad i’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

Hepgor yr Emiraethau Arabaidd Unedig o’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt

2.  Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), hepgorer y cofnod a ganlyn—

Yr Emiraethau Arabaidd Unedig.

Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â rheoliad 2

3.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo person (“P”)—

(a)yn cyrraedd Cymru am 4:00 a.m. ar 12 Ionawr 2021 neu wedi hynny, a

(b)wedi bod yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig ddiwethaf—

(i)o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, a

(ii)cyn 4.00 a.m. ar 12 Ionawr 2021.

(2Mae P, yn rhinwedd y ffaith iddo fod yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig, i’w drin at ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol fel pe bai wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, neu fel pe bai wedi cyrraedd ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath.

Vaughan Gething

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

11 Ionawr 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”). Diwygiwyd y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn flaenorol gan:

Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod i’w bennu yn unol â’r Rheoliadau hynny.

Mae gofynion y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ddarostyngedig i eithriadau, ac mae categorïau penodol o bersonau wedi eu hesemptio rhag gorfod cydymffurfio.

Nid yw’n ofynnol i bersonau sy’n dod i Gymru ynysu ar ôl bod mewn un neu ragor o’r gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Cyfeirir at y gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn Atodlen 3 fel “gwledydd a thiriogaethau esempt”.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt. Mae rheoliad 2 yn diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn hepgor yr Emiraethau Arabaidd Unedig o’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt.

Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â’r newid yn statws y wlad honno. Mae’r ddarpariaeth drosiannol yn ymdrin â maes a all fod yn destun amheuaeth o ran effaith y diwygiadau a wneir gan reoliad 2 o’r Rheoliadau hyn ar weithredu’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.