Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) (Diwygio) 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/794 (Cy. 174)) (“Rheoliadau 2020”). Mae Rheoliadau 2020 yn darparu ar gyfer amrywiad dros dro i’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol ar gyfer treth trafodiadau tir sy’n gymwys i drafodiadau eiddo preswyl sydd â dyddiad cael effaith ar 27 Gorffennaf 2020 neu ar ôl hynny, ond cyn 1 Ebrill 2021. Mae’r Rheoliadau hyn yn estyn cymhwysiad yr amrywiad dros dro i drafodiadau eiddo preswyl sydd â dyddiad cael effaith ar 27 Gorffennaf 2020 neu ar ôl hynny, ond cyn 1 Gorffennaf 2021.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cym.