Rheoliadau Pwyllgor Cydwasanaethau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Cymru) (Diwygio) 2021
Enwi, cychwyn a dehongli1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pwyllgor Cydwasanaethau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Cymru) (Diwygio) 2021.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2021.
(3)
Diwygio rheoliad 2 oʼr prif Reoliadau2.
(1)
Mae rheoliad 2 (dehongli) oʼr prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn y diffiniad o “prif swyddogion”, ar y diwedd mewnosoder “, a phrif swyddog neu brif weithredwr pob Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o’r Ddeddf”.
(3)
Yn y diffiniad o “cynrychiolydd enwebedig”, ar y diwedd mewnosoder “ac, mewn perthynas â phrif swyddog Awdurdod Iechyd Arbennig, swyddog-aelod o Awdurdod Iechyd Arbennig y prif swyddog”.
Diwygio rheoliad 7 oʼr prif Reoliadau3.
(1)
Mae rheoliad 7 (gofynion cymhwystra i aelodau’r pwyllgor) o’r prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2)
Ym mharagraff (2), yn lle “Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu Fwrdd Iechyd Lleol” rhodder “Fwrdd Iechyd Lleol, i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu fel prif swyddog neu brif weithredwr i Awdurdod Iechyd Arbennig”.
(3)
Ym mharagraff (3), yn lle “neu fel cyfarwyddwr gweithredol Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol y prif swyddog” rhodder “, fel cyfarwyddwr gweithredol o Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol y prif swyddog neu fel swyddog-aelod o Awdurdod Iechyd Arbennig y prif swyddog”.
(4)
Ym mharagraff (4), yn lle “neu fel cyfarwyddwr gweithredol o Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol y prif swyddog” rhodder “, fel cyfarwyddwr gweithredol o Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol y prif swyddog neu fel swyddog-aelod o Awdurdod Iechyd Arbennig y prif swyddog”.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Pwyllgor Cydwasanaethau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Cymru) 2012 (“y prif Reoliadau”), yn benodol rheoliadau 2 a 7 o’r prif Reoliadau.
Mae rheoliad 2 yn diwygio’r diffiniad o “prif swyddogion” yn y prif Reoliadau i gynnwys prif swyddog neu brif weithredwr Awdurdod Iechyd Arbennig yng Nghymru. Mae rheoliad 2 hefyd yn diwygio’r diffiniad o “cynrychiolydd enwebedig” yn y prif Reoliadau i gynnwys swyddog enwebedig i bob Awdurdod Iechyd Arbennig.
Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 7 o’r prif Reoliadau i gynnwys yn rheoliad 7(2) gyfeiriad at brif swyddog neu brif weithredwr Awdurdod Iechyd Arbennig, ac yn rheoliad 7(3) a (4) gyfeiriad at swyddog-aelod o Awdurdod Iechyd Arbennig y prif swyddog neu’r prif weithredwr.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.