NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Pwyllgor Cydwasanaethau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Cymru) 2012 (“y prif Reoliadau”), yn benodol rheoliadau 2 a 7 o’r prif Reoliadau.

Mae rheoliad 2 yn diwygio’r diffiniad o “prif swyddogion” yn y prif Reoliadau i gynnwys prif swyddog neu brif weithredwr Awdurdod Iechyd Arbennig yng Nghymru. Mae rheoliad 2 hefyd yn diwygio’r diffiniad o “cynrychiolydd enwebedig” yn y prif Reoliadau i gynnwys swyddog enwebedig i bob Awdurdod Iechyd Arbennig.

Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 7 o’r prif Reoliadau i gynnwys yn rheoliad 7(2) gyfeiriad at brif swyddog neu brif weithredwr Awdurdod Iechyd Arbennig, ac yn rheoliad 7(3) a (4) gyfeiriad at swyddog-aelod o Awdurdod Iechyd Arbennig y prif swyddog neu’r prif weithredwr.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.